Mentrau cymdeithasol ac economi Cymru - Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn dechrau ar ei ymchwiliad
26 Mai 2010
Mae Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i swyddogaeth mentrau cymdeithasol yn economi Cymru, ac mae’n galw ar i bobl sydd â gwybodaeth am y maes gyflwyno tystiolaeth.
Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb ym maint a natur y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru; yr heriau sy’n ei wynebu – gan gynnwys mynediad at gyllid a sicrhau cynaliadwyedd economaidd; agwedd Llywodraeth Cymru at ei gefnogi ac argaeledd a phriodoldeb cymorth busnes a chyngor ar gyfer mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid.
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Nod yr ymchwiliad hwn yw ymchwilio i bob agwedd ar y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys faint o ran y mae’n ei chwarae yn economi Cymru’n ehangach; pa mor dda y mae’n cael ei gefnogi; yr heriau sy’n wynebu mentrau cymdeithasol a’r potensial ar gyfer datblygiad yn y sector.
“Mae’r Pwyllgor yn annog unrhyw un sydd â phrofiad neu wybodaeth am y maes i gyflwyno tystiolaeth er mwyn llywio’r ymchwiliad pwysig hwn.
“Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi penodi Lis Burnett yn Gynghorydd Arbenigol y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad hwn. Mae Lis yn Bennaeth Entrepreneuriaeth Gymdeithasol yn y Ganolfan Mentergarwch ym Mhrifysgol Morgannwg a daw a chyfoeth o brofiad i'r swydd."
Dylid anfon cyflwyniadau ysgrifenedig trwy e-bost neu eu hanfon at Glerc y Pwyllgor erbyn 1 Gorffennaf:
Y Pwyllgor Menter a Dysgu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Enterprise.learning.comm@Cymru.gsi.gov.uk
Nodiadau i’r golygyddion:-
Dyma’r meysydd diddordeb y cytunwyd arnynt ar gyfer y Pwyllgor:
· Maint a natur y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru
· Y cyfleoedd presennol a phosibl ar gyfer datblygiad economaidd cynaliadwy ac adfywio cymunedol a gyflwynir gan y model busnes mentrau cymdeithasol
· Yr heriau sy’n wynebu mentrau cymdeithasol yng Nghymru (gan gynnwys mynediad at gyllid; sicrhau arian a grantiau; sicrhau cynaliadwyedd economaidd a hyfywedd)
· Agwedd Llywodraeth Cymru at gefnogi mentrau cymdeithasol, gan gynnwys rhoi Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol 2009 ar waith ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion yn 'Mapio gweithgarwch mentrau cymdeithasol yng Nghymru – Deall er mwyn Dylanwadu'
· Argaeledd a phriodoldeb cymorth busnes a chyngor ar gyfer mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol
· Yr heriau a’r cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno gan drefniadau caffael y sector cyhoeddus
· Arloesi cymdeithasol – y potensial i fentrau cymdeithasol ddatblygu canlyniadau newydd ac arloesol i rai o’r heriau mawr sy’n wynebu Cymru yn y dyfodol (Noder. Yn y Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i ymchwilio i sut y gellid ailadrodd model Glas Cymru er mwyn datblygu agweddau ar foderneiddio gwasanaethau cyhoeddus)