Mesur arfaethedig i osod gwregysau diogelwch ar fysiau ysgol – dweud eich dweud
28 Medi 2010
Mae Pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi dechrau craffu ar ddeddf arfaethedig a fydd yn gorfodi awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i sicrhau bod gwregysau diogelwch ar gael ar gludiant ysgol.
Bydd y Mesur arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) yn cyflwyno amrywiaeth o fesurau diogelwch ar gyfer cludiant ysgol.
Bydd y rhain yn cynnwys:
darparu gwregysau diogelwch priodol;
defnyddio dim ond cerbydau un llawr;
defnyddio bysiau a gynhyrchwyd ar ôl dyddiad penodol;
gosod camerâu cylch cyfyng a bodloni’r amodau gweithredu a bennwyd gan Weinidogion Cymru;
defnyddio cerbydau sy’n bodloni manylebau “bysiau melyn” a safonau’r bysiau hynny;
darparu hyfforddiant i yrwyr sy’n cyrraedd y safon a bennwyd gan Weinidogion Cymru;
cynnal yr asesiadau diogelwch a bennwyd gan Weinidogion Cymru;
darparu staff i oruchwylio bysiau ysgol
sicrhau bod tacsis a cherbydau a gaiff eu llogi’n breifat yn bodloni’r manylebau a bennir gan Weinidogion Cymru (rhan 1) .
“Bydd y Mesur hwn yn caniatáu i Weinidogion Llywodraeth Cymru bennu gofynion diogelwch ar y cerbydau sy’n cludo’n pobl ifanc i’r ysgol,” meddai Jenny Randerson AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
“Mae hwn yn bwnc llosg a gafodd gryn sylw yn y wasg yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn bwnc sy’n effeithio ar bob un ohonom.
“Dyna pam rydym am i gynifer ohonoch â phosibl gyfrannu at y broses graffu i sicrhau’n bod yn cael deddfwriaeth gref a fydd yn cadw’n plant a’n pobl ifanc yn ddiogel ar eu taith yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.”
Yn ogystal â hyn, mae’r Mesur yn darparu i roi’r pwer i Weinidogion Cymru:
ei gwneud yn drosedd i ddarparwyr cludiant dysgwyr dorri’r rheoliadau diogelwch drwy fethu bodloni’r gofynion a bennwyd;
creu system i gosbi darparwyr cludiant i ddysgwyr os ydynt yn torri’r rheoliadau diogelwch drwy fethu bodloni’r gofynion a bennwyd;
sefydlu corff gorfodi i orfodi’r rheoliadau;
sefydlu tribiwnlys apêl (rhan 6 a’r Atodlen).
I ddweud eich dweud, ysgrifennwch at Sara Beasley, Clerc Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Neu anfonwch e-bost at legislation.office@wales.gov.uk neu ewch i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol (gweler isod).