Mesur arfaethedig i osod gwregysau diogelwch ar fysiau ysgol – dweud eich dweud

Cyhoeddwyd 28/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mesur arfaethedig i osod gwregysau diogelwch ar fysiau ysgol – dweud eich dweud

28 Medi 2010

Mae Pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi dechrau craffu ar ddeddf arfaethedig a fydd yn gorfodi awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i sicrhau bod gwregysau diogelwch ar gael ar gludiant ysgol.

Bydd y Mesur arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) yn cyflwyno amrywiaeth o fesurau diogelwch ar gyfer cludiant ysgol.

Bydd y rhain yn cynnwys:

  • darparu gwregysau diogelwch priodol;

  • defnyddio dim ond cerbydau un llawr;

  • defnyddio bysiau a gynhyrchwyd ar ôl dyddiad penodol;

  • gosod camerâu cylch cyfyng a bodloni’r amodau gweithredu a bennwyd gan Weinidogion Cymru;

  • defnyddio cerbydau sy’n bodloni manylebau “bysiau melyn” a safonau’r bysiau hynny;

  • darparu hyfforddiant i yrwyr sy’n cyrraedd y safon a bennwyd gan Weinidogion Cymru;

  • cynnal yr asesiadau diogelwch a bennwyd gan Weinidogion Cymru;

  • darparu staff i oruchwylio bysiau ysgol

  • sicrhau bod tacsis a cherbydau a gaiff eu llogi’n breifat yn bodloni’r manylebau a bennir gan Weinidogion Cymru (rhan 1) .

“Bydd y Mesur hwn yn caniatáu i Weinidogion Llywodraeth Cymru bennu gofynion diogelwch ar y cerbydau sy’n cludo’n pobl ifanc i’r ysgol,” meddai Jenny Randerson AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae hwn yn bwnc llosg a gafodd gryn sylw yn y wasg yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn bwnc sy’n effeithio ar bob un ohonom.

“Dyna pam rydym am i gynifer ohonoch â phosibl gyfrannu at y broses graffu i sicrhau’n bod yn cael deddfwriaeth gref a fydd yn cadw’n plant a’n pobl ifanc yn ddiogel ar eu taith yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.”

Yn ogystal â hyn, mae’r Mesur yn darparu i roi’r pwer i Weinidogion Cymru:

  • ei gwneud yn drosedd i ddarparwyr cludiant dysgwyr dorri’r rheoliadau diogelwch drwy fethu bodloni’r gofynion a bennwyd;

  • creu system i gosbi darparwyr cludiant i ddysgwyr os ydynt yn torri’r rheoliadau diogelwch drwy fethu bodloni’r gofynion a bennwyd;

  • sefydlu corff gorfodi i orfodi’r rheoliadau;

  • sefydlu tribiwnlys apêl (rhan 6 a’r Atodlen).

I ddweud eich dweud, ysgrifennwch at Sara Beasley, Clerc Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Neu anfonwch e-bost at legislation.office@wales.gov.uk neu ewch i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol (gweler isod).

Facebook

Twitter