Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad i strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Daw'r strategaeth bresennol i ben ar 31 Mawrth 2017.
Ar 1 Awst, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, lansiodd Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, a Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog, ymgynghoriad ar Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 31 Hydref.
Mae'r Pwyllgor bellach yn gwahodd pobl i gyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad.
Dywedodd Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, "Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yn 2011, roedd 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a nod y strategaeth yw bron dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.
"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed mor uchelgeisiol, sydd wedi cael ei groesawu o bob cyfeiriad. Os yw'r Llywodraeth am gyrraedd y targed hwn, mae angen gosod sylfeini cadarn ar unwaith er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o bobl sy'n gallu addysgu ac ysbrydoli siaradwyr Cymraeg y dyfodol.
"O'i siarad neu beidio, mae'r iaith Gymraeg yn un o nodweddion mwyaf nodedig y cysyniad o Gymreictod. Mae'r iaith yn perthyn i bob un ohonom, ac nid yw ond yn deg ein bod yn uchelgeisiol ar gyfer ei hirhoedledd yn y dyfodol.
"Dyna pam mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cytuno ei bod yn bryd edrych ar sut y bydd y strategaeth yn newid o fod yn addewidion i weithredoedd, gan ystyried sut y gall y camau gweithredu hynny ddwyn ffrwyth. Nod ein hymchwiliad yw ceisio cyfrannu at y strategaeth newydd, a dylanwadu arni yn ystod y cyfnod datblygu ffurfiannol hwn."
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai ei phrif amcan yw creu gweithlu sydd â'r sgiliau priodol i addysgu a darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, a byddai'r pwyllgor yn awyddus iawn i glywed eich barn ynghylch:
- gwella'r modd yr ydym yn cynllunio'r gweithlu a chefnogi ymarferwyr ym mhob cyfnod ym maes addysg; a
- sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc.
Cyflwyno tystiolaeth:
Dylid dychwelyd gwybodaeth gyffredinol am y gweithdrefnau ymgynghori at:
Fel arall, gellir dychwelyd copïau caled o'r ffurflenni at:
Steve George
Clerc
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA.
Dylai cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Mercher 30 Tachwedd 2016.
Rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.