Mwy i gael ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc agored i niwed yn cael eu cynrychioli’n deg, medd pwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 23/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mwy i gael ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc agored i niwed yn cael eu cynrychioli’n deg, medd pwyllgor y Cynulliad

23 Medi 2010

Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd gormod o amser i weithredu ei strategaeth ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth plant yng Nghymru, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw (23 Medi) gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad.

Dywed yr adroddiad gan o grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith gwasanaeth newydd ar gyfer y gwasanaethau yn 2008, bod ei roi ar waith wedi bod yn broses araf ac anghyson.

Pryder arbennig gan y Pwyllgor yw nad oes gwasanaeth eiriolaeth annibynnol ar gael ar hyn o bryd i bobl ifanc fynd ato pan fyddant angen lleisio eu barn.

Mae adroddiad heddiw yn dilyn dau ymchwiliad blaenorol a wnaethpwyd gan y Pwyllgor i wasanaethau eiriolaeth plant yng Nghymru, ac mae’r ddau yn nodi argymhellion ar gyfer cynorthwyo i ddatblygu strategaeth gydlynol.

Ond dangosodd tystiolaeth a gafwyd gan y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad hwn mai ychydig sydd wedi newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf a bod angen gwneud cynnydd ar frys yn hyn o beth.

“Ddeng mlynedd ers Adroddiad Waterhouse, mae’n holl bwysig ein bod yn gwneud popeth posibl i sicrhau y gall y plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas leisio eu barn am faterion sy’n effeithio arnynt hwy,” meddai Helen Mary Jones, Cadeirydd y Pwyllgor.

“O gofio bod y pwyllgor hwn wedi cyflwyno adroddiadau ddwywaith ar y mater a bod bellach dros ddwy flynedd ers ein hymchwiliad gwreiddiol, mae’n siomedig clywed tystiolaeth nad yw gwasanaeth eiriolaeth annibynnol a chyffredinol ar gyfer plant a phobl ifanc wedi’i wireddu o hyd yng Nghymru.

“Mae eiriolaeth yn hanfodol ar gyfer y bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Gall eiriolwr helpu plentyn mewn ffyrdd dihafal pan fo’r plentyn mewn sefyllfaoedd anodd ac yn aml mewn sefyllfaoedd sy’n newid ei fywyd. Ac, o gael eu darparu’n dda, mae modd i wasanaethau eiriolaeth alluogi plant a phobl ifanc i fynnu llais.

“Ni allwn fel Pwyllgor ddweud wrth Lywodraeth Cymru sut i flaenoriaethu eu cyllideb, ond byddem yn annog Gweinidogion i gymryd golwg eang, tymor hir ar bwysigrwydd gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru”.

Argymhellion eraill yr adroddiad yw:

- Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei chanllawiau statudol yn ddi-oed.

- Mae’r Pwyllgor yn argymell, er bod gwasanaethau eiriolaeth yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer plant a phobl ifanc agored i niwed mewn hinsawdd ariannol anodd, ni ddylid colli golwg ar sicrhau darpariaeth gyffredinol.

- Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwasanaethau cymdeithasol yn sicrhau bod plant a phobl ifanc y maent hwy’n rhieni corfforaethol iddynt yn gwybod eu hawliau i eiriolaeth.

- Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid mapio’r ddarpariaeth eiriolaeth yng Nghymru. Ystyria’r Pwyllgor mai’r Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol yw’r corff gorau i ddarparu a chynnal trosolwg o’r fath.

- Mae’r Pwyllgor yn argymell bod arolygiaeth o wasanaethau eiriolaeth yn cael golwg eang ar ganlyniadau’r gwasanaeth a’r berthynas tymor hir y mae eiriolwyr yn ei datblygu â defnyddwyr y gwasanaeth. O wneud hyn, dylai arolygiadau gymryd safbwyntiau a phrofiad plant a phobl ifanc fel man cychwyn. Dylai’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol arwain yr arolygiadau, a dylent hwy weithio’n agos ag Estyn ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Roedd Adroddiad Waterhouse yn adroddiad ar y camdrin eang a ddigwyddai mewn cartrefi preswyl yng Nghymru. Rhyddhawyd yr adroddiad ym mis Chwefror 2000 a soniai am y camdrin systematig, yr hinsawdd o drais a’r diwylliant cyfrinachedd a oedd yn bodoli am fwy na dau ddegawd. Gwnaeth argymhellion – fel penodi comisiynydd plant, a gwarchodaeth i rai sy’n datgelu camarfer.