Ni ellir gadael tyfiant economi werdd Cymru i’r farchnad – meddai adroddiad pwyllgor
19 Gorffennaf 2010
Mae angen cyfeiriad cliriach a chynlluniau gweithredu effeithiol ac wedi’u cydlynu’n well ar Gymru os yw am achub y blaen ar dechnolegau gwyrdd, yn ôl adroddiad newydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Darganfu’r Pwyllgor Menter a Dysgu trawsbleidiol bod angen i’r economi werdd fod yn fwy canolog i ddatblygiad economaidd Cymru, yn hytrach na bod ar yr ymylon, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i ‘wyrddio’ rhai diwydiannau.
Mae ymrwymiad newydd y Llywodraeth i ynni a’r amgylchedd, fel un o’i chwe blaenoriaeth ar gyfer adnewyddiad economaidd yn y dyfodol, yn gyfle gwych i anelu’n uwch yn y maes hwn.
Bu’r ymchwiliad yn ystyried y cyfleodd i greu swyddi a gynigir gan yr economi werdd, er mwyn dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Penderfynodd y Pwyllgor bod sectorau fel ailwampio cartrefi i fod yn effeithlon o ran ynni, ynni adnewyddadwy morol a chaffaeliad yn cynnig cyfleoedd sylweddol, ond bod sawl her i’w goresgyn.
Er bod gwledydd fel Denmarc a’r Almaen eisoes yn arloesi ar dechnoleg tyrbinau gwynt, nododd y Pwyllgor bod modd i Gymru sicrhau môr o lwyddiant trwy fuddsoddiad mewn technolegau ynni morol – fodd bynnag, bydd angen cenhedlaeth o weithwyr medrus i fanteisio’n llawn ar y cyfle hwn.
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu:
“Credwn fod potensial ar gyfer datblygu cyflogaeth yn yr economi werdd, ond dylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi yn natblygiad y sylfaen sgiliau er mwyn gwireddu’r potensial hwnnw.”
“Rôl Llywodraeth Cymru yw helpu i greu amgylchiadau economaidd digon bywiog i gynhyrchu swyddi gwyrdd, yn gyntaf trwy ysgogi’r marchnadoedd yn y tymor byr ac, yn ail, trwy symbylu’r galw hirdymor.”
“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am ddatblygu’r economi werdd yng Nghymru, bydd angen iddi ddatblygu dull ymyraethol sydd wedi’i ffocysu a’i gydlynu’n well. Os bydd yr arweiniad gwleidyddol hwnnw yn ei le, cred fy Mhwyllgor y bydd cyfleoedd arwyddocaol ar gyfer datblygu’r economi werdd yn dilyn, gan gynnwys swyddi gweithgynhyrchu sy’n gwasanaethu’r technolegau cynaliadwy hynny.”
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 28 argymhelliad i ddatblygu’r economi werdd yng Nghymru, gan gynnwys:
- Dylai Gweinidogion Cymru fonitro effeithiolrwydd eu holl bolisïau, rhaglenni a chynlluniau cymorth er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal ac yn ymdrechu i hyrwyddo egwyddorion gwyrdd.
- Dylai Gweinidogion Cymru sicrhau y cyrhaeddir y targedau y cytunwyd arnynt o ran canran y trydan sydd i'w gynhyrchu o gynlluniau adnewyddadwy morol a chynlluniau micro-gynhyrchu fel y bydd Cymru ar flaen y gad yn datblygu marchnadoedd cynaliadwy ar gyfer sector gweithgynhyrchu a gwasanaethau cymorth gwyrdd.
- Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gydweithio â phartneriaid, gan ddechrau gyda'r sector tai cymdeithasol, i sicrhau cyllid a datblygu rhaglenni lleol fesul ardal, ledled y wlad, i wneud gwaith ar adeiladau sydd eisoes yn bod i'w gwneud yn fwy ynni-effeithlon. Yn ogystal â'r manteision cymdeithasol ac amgylcheddol, byddai hyn yn creu swyddi medrus lleol ac yn cefnogi cwmnïau o Gymru sy'n gwneud nwyddau arbed ynni.
- Dylai Gweinidogion Cymru bennu targedau mwy uchelgeisiol i annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i ystyried materion gwyrdd yn eu trefniadau caffael. Byddai hyn yn cynnwys targedau creu swyddi, cynyddu sgiliau'r gweithlu, ac annog a hybu busnesau Cymru, yn enwedig BBaChau, i ddarparu nwyddau a gwasanaethau gwyrdd i'r sector cyhoeddus.
- Wrth i Lywodraeth Cynulliad Cymru weithredu ei rhaglen adnewyddu economaidd, dylai roi pwyslais ar ysgogi a chefnogi busnesau newydd a chwmnïau deillio Cymreig yn yr economi werdd a chynnwys mesurau ar gyfer gwneud hynny. Hefyd, dylai sicrhau bod cwmnïau o Gymru'n masnacheiddio gwaith ymchwil a datblygu a wneir ym Mhrifysgolion Cymru lle bo modd.
- Dylai adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru gydweithio â'r Cynghorau Sgiliau Sector, sefydliadau addysg bellach a mentrau masnachol a chymdeithasol ar raglen i ganfod y mathau o sgiliau y mae galw amdanynt yn economi werdd ac economi garbon isel y dyfodol, gan ganolbwyntio ar anghenion lleol am sgiliau.