Nid da lle gellir gwell o ran ymateb i argyfyngau sifil yn ôl Pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 01/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Nid da lle gellir gwell o ran ymateb i argyfyngau sifil yn ôl Pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

1 July 2013

Mae lle i wella o ran sut mae sefydliadau yn ymateb i argyfyngau sifil fel llifogydd trwm a thywydd eithafol yn ôl Pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi argymell y dylid craffu'n fwy manwl ar sut mae sefydliadau fel yr heddlu, y gwasanaethau tân, y gwasanaethau meddygol ac awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer argyfyngau sifil ac yn ymdopi â hwy, gan edrych ar ba wersi y gellir eu dysgu.

Mae'r Pwyllgor hefyd o'r farn y byddai'r cynnig i symud tuag at fodel mwy rhanbarthol o ymateb i argyfyngau o'r fath yn golygu cryn newid o ran cydgysylltu a chydweithredu rhwng yr holl sefydliadau perthnasol.

Gan nodi dymuniad Llywodraeth Cymru i'w rôl o ran rheoli'r ymateb i argyfyngau sifil gael ei rhoi ar sail statudol, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro pa adnoddau y mae eu hangen i gymryd y cyfrifoldebau o'r fath ei hun cyn i'r pwerau gael eu rhoi.

Ar hyn o bryd, mae'r pwerau gyda Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU ac mae Llywodraeth Cymru wedi'i dal yn y canol. Clywodd y Pwyllgor bod y sefyllfa yn wahanol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon lle mae'r cyfrifoldebau wedi'u datganoli.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae sefyllfaoedd argyfyngus diweddar, gan gynnwys y rhai a achoswyd gan dywydd garw, wedi dangos i ni cymaint yr ydym yn dibynnu ar ymateb ein gwasanaethau brys.”

“Mae'r dystiolaeth rydym wedi'i chasglu yn yr ymchwiliad byr hwn yn nodi'n glir bod ymdrechion yn cael eu gwneud i wella'r ffordd y mae ein cymuned cydnerthu yn cynllunio at argyfyngau sifil ac yn eu rheoli, ac mae'r Pwyllgor yn croesawu'r ymdrechion hynny.

“Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod lle i wella o hyd. Er enghraifft, mae angen coladu arfer gorau o ran rheoli effaith y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn ystod argyfwng. Gall y defnydd o gyfryngau cymdeithasol ledaenu gwybodaeth, a gwybodaeth anghywir, yn llawer cynt na dulliau traddodiadol o gyfathrebu.”

“Rydym o'r farn bod angen craffu'n fwy trylwyr ac yn barhaus ar y sefydliadau sydd ar y blaen o ran llunio cynlluniau wrth gefn.”

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 14 argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Rydym yn nodi dymuniad Llywodraeth Cymru i geisio ‘trosglwyddo'r adnoddau gofynnol’ cyn ceisio trosglwyddo swyddogaethau ychwanegol Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 o Lywodraeth y DU. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhestr o’r adnoddau hynny sydd eu hangen i gyflawni dyletswyddau o’r fath cyn y trosglwyddir y swyddogaethau;

  • Byddai symud at y pedwar model rhanbarthol gwahanol yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhan o'r gymuned gydnerthu oresgyn nifer o heriau, gan gynnwys rhwystrau diwylliannol; a

  • Dylai Llywodraethau Cymru a'r DU sicrhau bod holl ymatebwyr Categori Un yn gyson yn y modd y maent yn rhoi Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 ar waith a bod eu perfformiad yn cael ei fonitro a'i graffu arno'n rheolaidd.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i argyfyngau sifil yng Nghymru