Nid yw buddion y newidiadau diweddaraf i Glastir wedi’u gwireddu eto yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 17/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Nid yw buddion y newidiadau diweddaraf i Glastir wedi’u gwireddu eto yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

17 Hydref 2012

Nid yw buddion newidiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru i gynllun amaeth-amgylcheddol Glastir wedi’u gwireddu eto, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn pryderu i glywed gan randdeiliaid ym mis Mai eleni fod materion difrifol yn parhau o ran hyrwyddo’r cynllun Glastir a’i roi ar waith ddwy flynedd ar ôl lansio’r cynllun hwnnw.

Er bod y Pwyllgor yn croesawu’r newidiadau a wnaeth Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Materion Gwledig, ar ôl iddo bwyso a mesur y cynllun, ac mae wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu’r wybodaeth am y cynnydd yn y maes hwn ddechrau mis Ionawr.

Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth bellach gan y Dirprwy Weinidog yn ystod sesiwn graffu yn y Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf. Roedd y Pwyllgor am wybod a effeithiwyr ar nifer y ffermwyr sy’n ymuno â’r cynllun Glastir o ganlyniad i ddiffyg cymorth ar ffermydd gan swyddogion y cynllun, cyfathrebu clir ynghylch gwahanol elfennau o’r cynllun a lefel y manylder sydd ei angen o ran gofynion cadw cofnodion y cynllun.

Er bod y Pwyllgor yn croesawu’r sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â rhai agweddau ar y cynllun, mae’n credu bod angen mwy o gynnydd mewn perthynas â datblygu cynlluniau cyfathrebu strategol, cymorth uniongyrchol i ffermwyr, cadw cofnodion a chymorth i goetiroedd.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, "Ar yr olwg gyntaf, ymddengys bod y datblygiadau diweddaraf hyn i wella eglurder, cyfathrebu a chymorth, wedi tawelu rhai o’r pryderon a fynegwyd inni gan ffermwyr a’r sefydliadau sy’n cymryd rhan."

"Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn rhy fuan i ddweud beth fydd y canlyniadau ar hyn o bryd."

"Felly, rydym wedi penderfynu cadw llygad ar Glastir ac wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu’r wybodaeth inni am y cynnydd yn y maes hwn ddechrau mis Ionawr."

Gwnaeth y Pwyllgor 10 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi cynllun cyfathrebu strategol cychwynnol ar gyfer Glastir erbyn mis Ionawr 2013. Yn ei chynllun cyfathrebu, dylai Llywodraeth Cymru nodi’r hyn y bydd yn ei wneud i gyfathrebu â’r ffermwyr hynny sydd eisoes yn rhan o Glastir ac i sicrhau bod dulliau priodol yn cael eu defnyddio i gyfathrebu â darpar ymgeiswyr. Os bydd y gwaith cyfathrebu hwn yn cael ei wneud gan asiantaethau gwahanol, dylai’r cynllun nodi’n glir y rhai a fydd yn bennaf gyfrifol am y gwahanol agweddau ar y gwaith;

  • Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i weld a yw diffyg cymorth ar y fferm wedi amharu ar y nifer sy’n gwneud cais am rai o opsiynau Glastir, a dylai gyhoeddi’r canlyniadau erbyn mis Ionawr 2013;

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ganlyniad yr adolygiad o ofynion cadw cofnodion Glastir, ac ar unrhyw newidiadau a gynigir o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw, gan wneud hynny erbyn mis Tachwedd 2012.