Nid yw profiadau pobl anabl ‘yn y byd go iawn’ yn cyd-fynd â pholisïau trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 10/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/10/2017

Nid yw profiad pobl ifanc anabl o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y byd go iawn yn cyd-fynd â'r polisïau a'r gwasanaethau y mae gweithredwyr yn dweud sydd yn eu lle, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi trafod deiseb a gyflwynwyd gan bobl ifanc â chefnogaeth Whizz-Kidz, yr elusen i bobl ifanc anabl, a oedd yn galw am well mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Roedd y Pwyllgor yn derbyn bod gan lawer o weithredwyr bysiau a threnau, yn ogystal â chwmnïau tacsis, bolisïau mynediad a hyfforddiant ar waith, ond roedd Aelodau'n cefnogi barn y deisebwyr fod profiadau dyddiol pobl sydd ag anableddau o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn anghyson ac yn aml yn methu â chyrraedd y safonau a ddisgwylir.

Dywedwyd wrth yr Aelodau am enghreifftiau lle'r oedd cwmnïau trenau yn gofyn am 48 awr o rybudd i ddarparu ramp mewn gorsaf, ac nad oedd ramp bob amser ar gael oherwydd prinder staff.

 


Dywedodd un deisebydd wrth y Pwyllgor:

"Roeddwn yng Nghaerdydd yn ddiweddar ac roedd y lifftiau wedi torri. Nid oeddwn yn gallu gadael yr orsaf. Roedd yn rhaid i mi adael y trên yng ngorsaf Heol y Frenhines, a chael tacsi yn ôl i orsaf Caerdydd Canolog i ddal y trên nesaf."

Roedd bysiau a thacsis hefyd yn achosi problemau o ran mynediad oherwydd y cerbydau y maent yn eu defnyddio a diffyg hyfforddiant priodol i staff.

Dywedodd David Rowlands AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, "Cafodd tystiolaeth y deisebwyr gryn argraff ar y Pwyllgor, ac roedd yr Aelodau'n siomedig nad oedd profiadau pobl anabl yn y byd go iawn yn cyd-fynd â'r polisïau a'r hyfforddiant a amlinellwyd gan y gweithredwyr trafnidiaeth."

"Mae'n hanfodol bod pobl anabl yn gallu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gwaith, addysg a gofal iechyd, neu i gwrdd â chyfeillion.

"Rydym yn croesawu'r enghreifftiau a'r polisïau cadarnhaol a gyflwynwyd inni gan weithredwyr trafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.

"Serch hynny, mae'n amlwg i ni fod mwy i'w wneud os ydym am sicrhau bod bysiau, trenau a thacsis ar gael i bawb."

 



“Rwy’n dair ar ddeg nawr, a hoffwn fod fel pawb arall, yn symud o gwmpas heb ddweud wrth rywun ugain gwaith... fel y gallaf gyrraedd pen fy nhaith yn syth bin, a mynd a dod heb unrhyw broblemau.”



– Deisebydd

 


 

Dywedodd Ruth Owen, prif weithredwr Whiz-Kidz:

"Fel rhan o'n hymgyrch Get on Board, mae Whiz-Kidz wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod gwneuthurwyr polisi yn mynd i'r afael â phryderon fel diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae profiadau anfoddhaol ein pobl ifanc wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus yng Nghymru yn tynnu sylw at yr angen dybryd i safonau fod yn llawer uwch.

"Mae'r adroddiad hwn yn galonogol iawn ac yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau newid. Yn awr, hoffai Whiz-Kidz weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhellion hyn ac yn eu hymgorffori ym mholisïau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth ledled Cymru yn hygyrch i bawb."

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud 12 o argymhellion i wella gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Bod y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf ar gyfer Cymru a'r Gororau, sydd i'w dyfarnu gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys gofynion i wella mynediad at wasanaethau rheilffyrdd yn sylweddol ac i gefnogi teithwyr i deithio heb orfod gwneud trefniadau ymlaen llaw lle bo hynny'n bosibl;

  • Bod Llywodraeth Cymru'n cyflwyno rhaglen hyfforddi safonol i godi ymwybyddiaeth o faterion ynghylch anabledd ar gyfer pob gyrrwr bws sy'n gweithio yng Nghymru; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn datblygu safonau cenedlaethol cyffredinol ar gyfer cerbydau tacsi a cherbydau hurio preifat, a'u gyrwyr, pan fyddant yn cael y pwerau i wneud hynny y flwyddyn nesaf.

 
Casglwyd 97 o lofnodion ar bapur ac ar-lein ar gyfer y ddeiseb.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan bobl ifanc ag anableddau, gweithredwyr bysiau a threnau, cynrychiolwyr o gwmnïau tacsis, grwpiau cludo teithwyr a Llywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad.

 



Darllen yr adroddiad llawn:

Sicrhau y gall pobl anabl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo’i hangen arnynt (PDF, 893 KB)