Sheep

Sheep

Nifer o faterion heb eu datrys o ran y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Cyhoeddwyd 22/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/07/2024   |   Amser darllen munudau

Heddiw, ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, mae dau o bwyllgorau’r Senedd wedi amlinellu pryderon am Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn dweud bod Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi bod ‘yn destun oedi, cam-gyfathrebu a lefelau digynsail o bryder ynghylch p’un a allai gyflawni.’

Mae'r Pwyllgor yn nodi materion o ran dyluniad y cynllun, y targedau ar gyfer gorchudd coed a sut y gellir eu bodloni, a'r fethodoleg ar gyfer taliadau i ffermwyr. Mae pobl wedi mynegi pryderon sylweddol i’r Pwyllgor am y Cynllun a’r ffaith nad yw'n ystyried dyfodol ffermio drwy gefnogi newydd-ddyfodiaid a ffermwyr tenant.

Clywodd aelodau'r Pwyllgor hefyd rwystredigaeth gan sefydliadau amgylcheddol am fod y broses o gyflwyno’r cynllun wedi cael ei oedi.

Mae'r adroddiad a lansiwyd heddiw yn codi cwestiynau pwysig i Lywodraeth Cymru: sut y gall sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn hygyrch i bob ffermwr, ni waeth pa fath o fferm neu ddaliadaeth sydd ganddo, a sut y gall gydbwyso’r gwaith o ddiogelu dyfodol y diwydiant ffermio a chynhyrchu bwyd â’r angen i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Ers pasio Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yr haf diwethaf a’r protestiadau gan dyrfaoedd o ffermwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn gweithio gyda'r diwydiant ac undebau i ddatblygu’r cynigion ymhellach.

Mae'r Pwyllgor nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut mae'n gwrando ar bryderon ffermwyr a sut y bydd yn newid ei chynlluniau i adlewyrchu eu barn.

Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig:

“Rydym ni wedi mynegi pryderon yn gyson ar ran ffermwyr nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pryderon.

“Yn y Sioe Frenhinol eleni, bydd bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers pasio Deddf Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru ac mae yna oedi o hyd o ran gweithredu’r Ddeddf. I'r rhai sy'n ymwneud â ffermio, ac i'r rhai sy'n gweithio i warchod ein hamgylchedd, mae'r ansicrwydd hwn yn peri pryder.

“Un o’r pryderon mawr drwy’r broses hon yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod am y newidiadau mawr yn sgil y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'n hanfodol bod ffermwyr yn cymryd rhan ar hyd y broses ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. 

“Rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos sut maen nhw'n addasu eu cynlluniau i ddiwallu anghenion ein diwydiant amaeth a'n hamgylchedd.”

Plannu coed

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith hefyd wedi cynnal ymchwiliad yn edrych ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae'r Pwyllgor yn glir ei bod yn hanfodol plannu mwy o goed os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd, ond cydnabu fod ffermwyr wedi mynegi teimladau cryf y byddai hyn yn gwneud llawer o fusnesau'n anhyfyw.

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn dros saith mlynedd yn ôl, a gyda’r oedi a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer y camau nesaf cyn gynted â phosibl.

Yr agwedd fwyaf dadleuol ar y cynllun yw'r gofyniad bod 10% o dir ffermwyr wedi’i orchuddio â choed i helpu storio carbon yn ogystal a gwarchod bywyd gwyllt a hybu bioamrywiaeth.

Dywed aelodau’r Pwyllgor eu bod yn agored i ffyrdd amgen o gyrraedd y targed cyn belled a’u bod yn cyflawni yr un nod, a gwnaethant annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori â Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU ar atebion eraill.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith:

“Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn bennod newydd ar gyfer amaethyddiaeth Cymru, ond mae gan Lywodraeth Cymru lawer o waith i'w wneud cyn ei fod yn barod i'w gyflwyno.

“O gofio bod Llywodraeth Cymru bellach wedi gweithio ar y cynlluniau hyn ers bron i ddegawd, mae'n hanfodol iddyn nhw ffeindio datrysiadau i sicrhau fod cynllun yn barod ar gyfer 2026.

“Mae gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy y potensial i roi amaethyddiaeth ar sail wirioneddol gynaliadwy, gyda ffermwyr yn arwain yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a dirywiad natur. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu ein hargymhellion cyn symud ymlaen.”