Nifer uwch nag erioed o ymwelwyr yn heidio i'r Senedd i weld Pabis: Weeping Window

Cyhoeddwyd 27/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Daeth nifer uwch nag erioed o ymwelwyr i'r Senedd dros yr haf eleni i weld cerflun pabis eiconig Weeping Window.

Weeping Window a Y Senedd

Daeth mwy na 49,000 o bobl i weld gwaith yr artist Paul Cummins a'r dylunydd Tom Piper, sy'n rhan o daith ledled y DU a drefnwyd gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r ffigur fwy na deirgwaith yn uwch na nifer y bobl a ymwelodd â'r Senedd yn ystod yr un cyfnod dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Roedd y cerflun i'w weld ar risiau'r Senedd rhwng mis Awst a mis Medi a bydd yn symud nawr i Amgueddfa Ulster yn Belfast ar gyfer cam nesaf y daith ledled y DU.

Roedd yr arddangosfa yn rhan o 'Cymru'n Cofio', sef rhaglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd arddangosfa Weeping Window yn cyd-fynd â chanmlwyddiant Brwydr Passchendaele, lle y bu farw llawer o Gymry, gan gynnwys y bardd enwog Hedd Wyn.


 

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad,  "Mae Weeping Window wedi bod yn boblogaidd iawn, gan ddenu nifer fawr o ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

"Mae'r Senedd yn lleoliad arbennig ac mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn mwynhau'r cerflun ac yn cymryd amser i feddwl ac ystyried ei arwyddocâd."

 


 

Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW:

"Mae'r pabis wedi swyno miliynau o bobl ledled y DU, ac roeddem yn falch iawn o gael cyfle i weithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Weeping Window yn y Senedd yng Nghaerdydd.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r artist Paul Cummins a'r dylunydd Tom Piper am y ddau ddarn hynod bwerus hyn o gelf sydd o arwyddocâd cenedlaethol ac sy'n parhau i ysbrydoli pawb sy'n eu gweld."

Mae Weeping Window yn un o ddau gerflun a gymerwyd o'r celfwaith Blood Swept Lands and Seas of Red – gwaith yr artist Paul Cummins yw'r pabis a'r cysyniad gwreiddiol a dyluniwyd y gosodiad gan Tom Piper.

Ann Jones AM, Tom Piper, Janny Waldman, lee Karen Stow, Paul Cummins 

Cafodd y gosodiad ei arddangos yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain yn 2014, lle'r oedd 888,246 o babis i'w gweld, sef un ar gyfer pob milwr Prydeinig neu drefedigol a laddwyd ar y ffrynt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Lluniwyd y gosodiad gan Paul Cummins Ceramics Limited ar y cyd â'r Palasau Brenhinol Hanesyddol. Weeping Window yw'r rhaeadr o babis a oedd i'w gweld yn llifo allan o ffenestr uchel i lawr at y glaswellt oddi tani.

Ochr yn ochr â Weeping Window cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru arddangosfa o'r enw Menywod, Rhyfel a Heddwch hefyd. Daeth Lee Karen Stow, y ffotonewyddiadurwr enwog, â'i harddangosfa fyd-enwog i Gymru, yn cynnwys portreadau ychwanegol a gomisiynwyd yn arbennig i ddangos effaith y rhyfel ar fenywod Cymru.

Mae teithiau Wave a Weeping Window gan 14-18 NOW yn rhoi cyfle i bobl ledled y DU deimlo effaith y pabis seramig mewn lleoliadau amrywiol sydd â chysylltiad â'r Rhyfel Byd Cyntaf. Ers i'r teithiau ddechrau yn 2015, mae dros 2.7 miliwn o bobl wedi gweld y ddau gerflun. Bydd Wave a Weeping Window yn parhau i gael eu harddangos mewn lleoliadau penodol o amgylch y DU, gan gyrraedd IWM North ac IWM Llundain yn ystod yr hydref yn 2018.

Yn dilyn yr arddangosfa yng Nghaerdydd, bydd Weeping Window yn Amgueddfa Ulster yn Belfast rhwng 14 Hydref a 3 Rhagfyr 2017. Bydd Wave i'w weld yng Nghofgolofn Lyngesol Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn Plymouth rhwng 23 Awst a 19 Tachwedd 2017.

Mae Wave a Weeping Window wedi cael eu cadw i'r genedl gan Ymddiriedolaeth Backstage a Sefydliad Clore Duffield. Cafwyd cymorth ariannol ar gyfer yr arddangosfeydd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae'r gwaith o godi arian ar gyfer y teithiau yn parhau.

DAF Trucks yw'r noddwr trafnidiaeth ar gyfer yr arddangosfeydd yn y DU, ac mae 14-18 NOW yn falch iawn o fod yn bartner i DAF wrth droi'r prosiect hanesyddol hwn yn realiti. Cefnogir y rhaglen ddysgu ac ymgysylltu sy'n cyd-fynd â thaith y pabis gan Sefydliad Foyle.