Nodi dechrau Cynulliad y Cymunedau yn y Senedd
6 Mehefin 2011
Bydd cynrychiolwyr o wahanol gredoau, diwylliannau a chymunedau yn cymryd rhan mewn digwyddiad yn y Senedd ar 6 Mehefin, ar noswyl agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd Gwylnos y Byrllysg yn dathlu amrywiaeth cymunedau Cymru ac yn galw am well dealltwriaeth rhwng carfannau ein cymdeithas ledled y wlad.
Bydd yr wylnos hefyd yn nodi dechrau Cynulliad y Cymunedau, sef un o brif amcanion Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae’r Cynulliad newydd yn cynrychioli cymunedau ledled y wlad.”
“Nid yw hyn wedi ei gyfyngu ar sail ddaearyddol. Yr wyf am i’r pedwerydd Cynulliad ymwneud yn uniongyrchol â chymunedau ar draws y wlad. Ni fydd ffiniau daearyddol yn cyfyngu’r gwaith, oherwydd caiff pob mudiad diwylliannol a phob grwp buddiant a demograffig eu cynnwys. Ni ddylai neb yng Nghymru deimlo nad oes ganddynt lais yn y broses.
“Os oes gan bobl faterion sy’n effeithio ar eu tref, pentref neu gymuned, yr wyf am iddynt wybod fy mod i a fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad yma i’w cynrychioli, ac rydym am glywed yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud am y materion sydd o bwys iddynt. Diben Gwylnos y Byrllysg yw nodi dechrau’r ymrwymiad hwnnw.”
Bydd rhai o aelodau blaenllaw cymunedau Cymru yn cyfrannu drwy gyfrwng areithiau, darlleniadau ac emynau.
Rhaglen
Y Croeso
Gwahoddir pawb i sefyll wrth i osgordd yr Wylnos arwain y Llywydd, y Dirprwy Lywydd, ac arweinwyr pleidiau’r Cynulliad i’w seddau, o flaen y byrllysg.
Yr Azaan gan Sheikh Yaqub Kutkut
Myfyrdod ar Ffydd a Chred
Cymuned o’r Cread
Darllenir hanes y creu o Genesis 1: 1-5, yn yr iaith Hebraeg gan Diana Soffa o’r gymuned Iddewig.
Dawns o’r ffilm Naya Daur o 1957, wedi’i pherfformio gan aelodau Sanatan Dharma Mandal a Chanolfan Gymunedol Hindwaidd Caerdydd.
Shabad neu emyn wedi’i ddarllen gan Surinder Channa o’r gymuned Sicaidd.
Darlleniad o’r ffydd Bahaiaidd gan Kathryn Delpak MBE
“Tydi a Roddaist” – emyn wedi’i ganu gan Mark Rowland.
Cymuned o Daith y Ddynoliaeth
Darlleniadau gan:
Monsignor Robert Reardon
Y Parchedig Gareth Morgan Jones
Y Parchedig Elfed Godding
Alan Schwartz MBE
Saleem Kidwai OBE
Naran Patel
Kathryn Delpak MBE
Surinder Channa
Dorje Tsig-dün – saith adnod hanfodol y Padmasambhava a gaiff eu canu gan Ngakma Nor’dzin Pamo a Ngakpa ‘ö-Dzin Tridral
Myfyrdod ar greu a chynnal cymuned dan ofal y Parchedig Alan Bayes, Cadeirydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru.
Cymuned o Hawl Ddynol yr Unigolyn
Cipolwg ar ein hanes gan Elisa Morris, Nadia Hassan a Bedwyr ap Ion, tri aelod o brosiect “Cymru’n Cyd-dynnu” Ysgol Plasmawr, Caerdydd.
Ashokan Farewell – wedi’i berfformio gan Gerddorfa Salon y Llu Awyr Brenhinol
Ymrwymiadau
Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fydd yn adrodd yr Ymrwymiad Statudol.
Michelle Matheron o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chorff Public Affairs Cymru fydd yn adrodd yr Ymrwymiad Sifil.
Ymrwymiad y Llywydd
Nimrod – wedi’i berfformio gan Gerddorfa Salon y Llu Awyr Brenhinol
Anfon Allan
Hen Wlad fy Nhadau
Y Fendith – yng ngofal y Parchedicaf Ddr Barry Morgan, Archesgob Cymru.
Cedwir Byrllysg Cymru yn y Siambr pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cwrdd. Wedi’i wneud o aur, arian a phres, gwelir arwyddlun swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol ar ei ben uchaf. Rhodd gan Senedd De Cymru Newydd oedd y byrllysg adeg agoriad swyddogol y Senedd, yng Nghaerdydd ar Ddydd Gwyl Dewi 2006, ac mae’n arwydd o ddeddfwrfa y mae disgwyl iddi, yn ei gwaith:
hyrwyddo datblygu cynaliadwy
rhoi sylw priodol i’r egwyddor o roi cyfle cyfartal i bawb
a chynnal hawliau dynol.