Penddelw o Jim Griffiths

Penddelw o Jim Griffiths

O’r Pwll Glo i Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cyntaf

Cyhoeddwyd 12/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar ddydd Mercher, 11 Mai 2022, cyflwynodd y Llywydd, y Gwir Anrh. Elin Jones a Phrif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Mark Drakeford gerflun o Jim Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyntaf, yn y Senedd.  

Roedd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys siaradwyr nodedig eraill fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart AS, yr Arglwydd Morris o Aberafan, Nia Griffiths AS, Dr D Ben Rees a Gwynoro Jones, yn dadorchuddio’r arddangosfa dros dro yn Neuadd Senedd Cymru ym Mae Caerdydd. 

Roedd y digwyddiad yn dathlu Griffiths, a ddaeth at wleidyddiaeth ar ôl gadael ei waith mewn pwll glo lleol yn 29 oed yn 1921, gan ymuno â phobl fel Aneurin Bevan a Morgan Phillips i astudio yn Llundain, cyn cael ei ethol yn AS dros Lanelli ym 1936.

Ymgyrchodd y gŵr o Sir Gaerfyrddin yn ddiflino i wahanol Brif Weinidogion sefydlu’r rôl o Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyn, yn 1964, penodwyd Griffiths gan Harold Wilson yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyntaf. 

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: 

 “Mae cyfraniad James Griffiths i Gymru, ac i’r Deyrnas Unedig wedi cael ei anghofio yn y cyfnod diweddar, mewn ffordd a fyddai wedi bod yn anodd ei ddychmygu yn ei oes. 

 “Yn Ddirprwy Arweinydd Plaid Lafur y DU, pensaer deddfwriaeth gwladwriaeth les sylfaenol, ac yn ymgyrchydd cyson dros fwy o ddatganoli, ei swydd olaf yn y llywodraeth oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. 

 “Mae’n hynod addas fod digwyddiad heddiw yn nodi’r cyfraniad hwnnw yng ngalon democratiaeth gyfoes Cymru”. 

Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd: 

“Roedd ymgyrch benderfynol Jim Griffiths dros greu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn golygu mae ganddo le parhaol yn ein hanes gwleidyddol. 

 “Mae croesawu’r arddangosfa hon i’r Senedd yr wythnos hon yn amlygu pa mor bell y mae Cymru a datganoli wedi dod ers ei ymgyrch ddiflino i sefydlu Ysgrifennydd Gwladol Cymru. 

 “Mae’n ffigwr pwysig yn hanes balch Cymru o gewri gwleidyddol, ac rwy’n falch o gael cynnal ei gerflun yma yn y Senedd.” 

Bydd y cerflun yn cael ei arddangos yn y Neuadd tan ddydd Gwener 19eg Mai cyn symud yn ôl i’w gartref parhaol yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn eu hadran newydd sy’n ymroddedig i wneuthurwyr newid.