O Stryd Downing i Gymru – Y Llywydd i groesawu côr o blant amddifad o Uganda i’r Pierhead

Cyhoeddwyd 18/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

O Stryd Downing i Gymru – Y Llywydd i groesawu côr o blant amddifad o Uganda i’r Pierhead

18 Mai 2010

Heddiw (18 Mai) bydd côr sy’n cynnwys 15 o blant amddifad o Uganda yn rhoi perfformiad arbennig i gynulleidfa yn y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Mae côr Destiny Affrica yn cynnwys 15 o blant rhwng wyth ac 16 oed, sydd wedi eu gadael yn amddifad neu gyda rhiant na all ofalu amdanynt bellach oherwydd rhyfel, HIV ac afiechyd sy’n gysylltiedig ag AIDS.

Mae’r côr, sydd eisoes wedi ymweld â Stryd Downing, ar daith yn y DU er mwyn codi ymwybyddiaeth o Ganolfan Blant Kampala – y cartref plant amddifad lle maent yn byw.

Bydd y plant yn canu, yn dawnsio ac yn drymio i’r gynulleidfa yn y Pierhead, a byddant yn siarad am eu profiadau o wrthdaro a’u gobaith am y dyfodol.

Hefyd, bydd Arnold Muwonge, Cyfarwyddwr Canolfan Blant Kampala yn cyfarch y gynulleidfa

Byddant hefyd yn mynd ar daith o amgylch y Senedd.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Mae’n anrhydedd cael croesawu côr Destiny Affrica i’r Pierhead ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn berfformiad arbennig iawn.”

Mae linc i wefan Canolfan Blant Kampala isod.