Offer TGCh y Cynulliad yn cael bywyd newydd

Cyhoeddwyd 07/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Offer TGCh y Cynulliad yn cael bywyd newydd

Mae cyfrifiaduron, argraffyddion ac offer TGCh arall o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael bywyd newydd.

Yn dilyn gwaith i uwchraddio gwasanaethau TGCh Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad, rhoddwyd dros 500 cyfrifiadur, 250 argraffydd a thua 130 gliniadur i Remploy, cwmni sy’n arbenigo mewn cyflogi pobl anabl.

Aethpwyd â’r offer i ganolfan y cwmni yn y Porth, a bydd naill ai’n cael ei ailwampio a’i werthu, a’r Cynulliad yn cael ad-daliad amdano, neu’n cael ei ddatgysylltu a’i ailgylchu.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gyfrifol am agweddau gweinyddol a gweithredol ar waith y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cynnal a chadw’r ystâd a darparu cymorth clerigol a chyfreithiol.

Dywedodd Dianne Bevan, y Prif Swyddog Gweithredu: “Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud ymrwymiad i weithio mewn modd cynaliadwy lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi lleihau ein hôl troed carbon 8 y cant, gan gyrraedd ein nod llym ein hunain.

“Cafwyd cydnabyddiaeth am y gwaith caled hwn yn y Gwobrwyon Rheoli Cyfleusterau Cynaliadwy pan ddyfarnwyd mai’r Cynulliad oedd y sefydliad sector cyhoeddus mwyaf cynaliadwy ar lefel llywodraeth.

“Mae ailgylchu offer diangen yn enghraifft arall o sut y gall sefydliadau mawr weithredu mewn modd cyfrifol, ac yn gam ymhellach tuag at gyrraedd ein targed newydd ar gyfer allyriadau er mwyn sicrhau lleihad o 8 y cant arall yn ystod y 12 mis nesaf.”

Dywedodd Alan Hill, Cyfarwyddwr Busnes Menter Remploy, ac sy’n gyfrifol am y cwmni `E-Cycle’: “Nod Remploy yw darparu cyflogaeth gynaliadwy a thrawsnewidiol i bobl anabl.

“Mae ein gwaith i ailgylchu offer trydanol a chyfrifiadurol yn y Porth yn rhan bwysig o’r nod hwnnw.

“Rydym yn gallu cyrraedd y nod hwn o ganlyniad i’n harfer llwyddiannus o weithio gydag ystod o bartneriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys CapGemini a Hewlett Packard, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, fel rhan o fframweithiau Gwerth Cymru ar gyfer busnesau wedi’u cynnal.”