Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad yn archwilio'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran adeiladu cartrefi carbon isel ac yn ystyried a fydd yn methu cyrraedd targedau pwysig i leihau allyriadau os na lwyddith i adeiladu cartrefi mwy effeithlon o ran arbed ynni.
Lansiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei ymchwiliad yn Nhŷ SOLCER, Pen-y-bont ar Ogwr. SOLCER yw'r tŷ ynni cost isel cyntaf yn y DU, ac mae'n gallu allforio mwy o ynni i'r grid nag y mae'n ei ddefnyddio. Cafodd ei ddylunio gan arbenigwyr Ysgol Bensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a'i adeiladu ar safle Cenin Renewables.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried:
Sut i sicrhau bod cartrefi presennol Cymru yn arbed cymaint o ynni â phosibl;
A oes gan sector tai Cymru y sgiliau priodol i ddatblygu diwydiant adeiladu tai carbon isel;
A oes unrhyw rwystrau sy'n ein hatal rhag trawsnewid y diwydiant adeiladu tai yng Nghymru a chreu dyfodol carbon isel
Sut y gall Ofgem a'r grid cenedlaethol sicrhau bod y grid yn gallu cynnwys cartrefi sy'n cynhyrchu ynni a'i allforio'n ôl i'r rhwydwaith; ac
A oes angen newid rheoliadau adeiladu er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru i arbed ynni a lleihau allyriadau.
Hoffem ni clywed gennych chi.
Cymryd rhan mewn ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar dai carbon isel yng Nghymru.
Tai carbon isel: yr her
Meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Mae posibilrwydd gwirioneddol y gallai datblygu tai helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac effeithiau carbon yng Nghymru.
"Byddwn yn archwilio a yw'n bosibl adeiladu cartrefi fforddiadwy, carbon isel ar raddfa eang - cartrefi a fydd yn cynhyrchu ynni glân ac yn ei allforio'n ôl i'r grid. Byddwn hefyd yn ystyried y canlyniadau i Gymru os na fydd yn cyrraedd ei thargedau lleihau carbon ei hun."
"Rydym yn awyddus i archwilio unrhyw rwystrau sy'n ein hatal ni yma yng Nghymru rhag adeiladu tai carbon isel ar raddfa eang gan fod cynlluniau i godi degau o filoedd o gartrefi newydd yng Nghaerdydd yn unig. Unwaith y cânt eu hadeiladu, byddant yma tan y ganrif nesaf, felly mae'n hanfodol eu bod yn cael eu dylunio i gael gwared ar unrhyw elfennau aneffeithiol cyn i'r gwaith cloddio ddechrau."
I ymateb i'r ymgynghoriad ynghylch tai carbon isel, anfonwch eich sylwadau at SeneddCCERA@cynulliad.cymru. Rhaid anfon ymatebion cyn 13 Tachwedd 2017, sef y dyddiad cau, ac mae manylion llawn yr ymgynghoriad i'w gweld ar wefannau'r Pwyllgor.