Paratoi i gasglu trethi yng Nghymru - datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 01/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2016

​Mae Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru'.

Dywedodd Mr Thomas:

"Mae gallu casglu ein trethi ein hunain am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd yn ddigwyddiad hanesyddol i bobl Cymru, ac felly mae'n bwysig sicrhau bod y fframweithiau sy'n galluogi hyn yn gadarn ac yn deg.

"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at gynnydd da a wnaed hyd yma gan Lywodraeth Cymru wrth gynllunio ar gyfer y newid arwyddocaol hwn.

"Fodd bynnag, mae nifer o feysydd allweddol y mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn nesaf wrth iddynt ddechrau cyflawni'r cynlluniau hyn, yn enwedig wrth gytuno ar setliad cyllidol teg gyda Llywodraeth y DU ar ôl i'r trethi hyn gael eu datganoli i Gymru ym mis Ebrill 2018.

"Bydd hefyd yn bwysig y darperir sicrwydd pellach yn ystod 2017 ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni'r strwythurau a'r prosesau casglu trethi cyn mis Ebrill 2018."

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cytuno'n flaenorol i gynnal ymchwiliad byr i roi Deddf Cymru 2014 ar waith, a bydd yn gwahodd tystiolaeth gan yr Archwilydd Cyffredinol. Bydd y Pwyllgor hefyd yn gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i un o gyfarfodydd y Pwyllgor. Bydd hyn y digwydd ar ôl iddynt osod eu hadroddiadau gweithredu blynyddol ym mis Rhagfyr ar weithrediad Deddf 2014 fel sy'n ofynnol o dan adran 23(3) o Ddeddf 2014.