Parch cydradd â’r Alban - y Llywydd yn rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin

Cyhoeddwyd 04/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2015

​Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin.

Bydd y pwyllgor yn clywed tystiolaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 4 Rhagfyr.

Yn ei thystiolaeth, bydd y Llywydd yn dweud bod llawer o'r argymhellion a wnaed ynglŷn â rhagor o ddatganoli yn yr Alban yn cydfynd â'r hyn y bu hi'n galw amdano i gryfhau'r Cynulliad.

Bydd y Llywydd yn dweud wrth y pwyllgor: "Mae'r Cynulliad eisoes wedi cytuno ar gynnig trawsbleidiol sy'n nodi'r amrywiol feysydd lle'r ydym yn dymuno gweld cynnydd gyda datganoli yng Nghymru."

"Mae llawer o argymhellion Comisiwn Smith yn cydfynd â'r hyn y bûm yn galw amdano i gryfhau'r Cynulliad.

"Os yw'r Alban yn cael cynnig pwerau neu gyfrifoldebau newydd, byddem yn disgwyl i'r un parch gael ei ddangos tuag at sefydliad datganoledig Cymru."

Bydd y Llywydd hefyd yn galw am weithredu ar frys i gynyddu maint y Cynulliad.

Bydd yn dweud: "Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod angen rhagor o Aelodau Cynulliad arnom bellach.  Gofynnais am 80 yn fy nhystiolaeth i Gomisiwn Silk. Roedd hynny bron i ddwy flynedd yn ôl ... rwy'n tueddu i ddweud fod angen mwy nag 80 arnom bellach a hynny cyn gynted â phosibl."

Bydd y Fonesig Rosemary hefyd yn ystyried ei rôl yn y broses o ddatganoli.

"Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gyrraedd consensws gwleidyddol erbyn 1 Mawrth 2014.  Mae'n uchelgeisiol ond mae hefyd yn amser i'n trefniadau cyfansoddiadol gydfynd â natur ein Hundeb sy'n newid.

"Fel Llywydd, nid yw fy mlaenoriaethau'n cael eu gyrru gan blaid wleidyddol, ond gan anghenion hirdymor y Cynulliad fel sefydliad democrataidd effeithiol.  Mae gennym bellach y cyfle i sicrhau rhai newidiadau hanfodol a fyddai'n darparu sylfaen gynaliadwy i'r sefydliad ddarparu ar gyfer pobl Cymru."

Yn ystod y sesiwn, bydd y Llywydd yn pwysleisio'i galwad i fynd i'r afael â'r materion allweddol canlynol er mwyn sicrhau y gall y Cynulliad arfer ei bwerau mor effeithiol â phosibl:

  • Gallu - mae'r Llywydd wedi bod yn galw ers tro i gynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad i o leiaf 80 er mwyn sicrhau bod gennym y gallu i ddatblygu'r arbenigedd angenrheidiol sydd ei angen i ddwyn Gweinidogion y Llywodraeth i gyfrif mewn ffordd gadarn o ran eu cynigion codi trethi, deddfu a pholisi.
  • Pwerau a gedwir yn ôl – bydd symud i fodel pwerau a gedwir yn ôl yn helpu i chwalu rhywfaint o'r ansicrwydd o ran rôl a chyfrifoldebau'r Cynulliad.  Bydd yn caniatau i'r Cynulliad ddeddfu'n fwy effeithiol a gyda mwy o hyder;
  • Sofraniaeth - dylai'r Cynulliad fod yn gallu penderfynu ar ei ddyfodol ei hun a bod â rheolaeth dros y penderfyniadau ar faterion fel enw'r Cynulliad a'i drefniadau etholiadol a'i reolau mewnol, yn hytrach na San Steffan, a chreu'r cyfreithiau gorau posibl i bobl Cymru.

Bydd Pwyllgor Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin yn cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 1 y Senedd o 09.30, gyda'r Llywydd yn rhoi tystiolaeth am 11.25.