Dewis Comisiynydd Safonau â phwerau newydd
21 Hydref 2010
Dewiswyd Gerard Elias CF, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cynulliad, i fod yn Gomisiynydd Safonau annibynnol newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Sefydlwyd y swyddfa annibynnol newydd hon gan Fesur Comisynydd Safonau y Cynulliad a gafodd ei chymeradwyo gan Aelodau’r Cynulliad y llynedd.
Mae’r ddeddf newydd yn:
sicrhau bod y Comisynydd yn annibynnol o’r Cynulliad, ac felly’n gallu gweithredu’n hollol ddiduedd wrth ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad;
darparu pwerau newydd cryf i’r Comisiynydd, sy’n debyg i rai llys barn, i ymchwilio’n drwyadl i gwynion; a
rhoi cyfrifoldeb i’r Comisynydd hybu safonau uchel o ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad.
Mae gan Mr Elias yrfa sy’n ymestyn dros 40 mlynedd mewn maes cyfreithiol. Mae’n fargyfreithiwr ac yn fwy diweddar bu’n Gwnsler Arweiniol i ymchwiliad Baha Mousa.
Mae ganddo nifer o flynyddoedd o brofiad ym maes disgyblaeth broffesiynol ar lefel uchel yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig mewn chwaraeon.
Cafodd ei ddewis o blith casgliad cryf o ymgeiswyr i ymgymryd â’r rôl newydd hon.
Dywedodd Mr Elias: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael cynnig y swydd Comisiyndd Safonau ac rwy’n edrych ymlaen at gael ychwanegu at y gwaith da mae fy rhagflaenydd eisioes wedi ei wneud.
“Rwy’n ei gweld yn ddyletswydd arnaf i ddarparu sicrwydd i Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â phobl Cymru, bod Aelodau’r Cynulliad yn gweithredu’n unol â’r safonau uchaf posibl mewn bywyd cyhoeddus.
“Rwy’n siwr bod annibyniaeth y Comisiynydd, a’r pwerau cryfach sydd gennyf yn fy ngalluogi i ymchwilio’n fanylach i unrhyw ymddygiad sy’n taflu amhuaeth ar y safonau hyn. Dylai hyn ddangos bod swydd gyhoeddus Aelod Cynulliad i’w gweithredu gyda’r parch mwyaf.”