Penodi Comisiynydd Safonau â phwerau newydd

Cyhoeddwyd 21/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dewis Comisiynydd Safonau â phwerau newydd

21 Hydref 2010

Dewiswyd Gerard Elias CF, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cynulliad, i fod yn Gomisiynydd Safonau annibynnol newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Sefydlwyd y swyddfa annibynnol newydd hon gan Fesur Comisynydd Safonau y Cynulliad a gafodd ei chymeradwyo gan Aelodau’r Cynulliad y llynedd.

Mae’r ddeddf newydd yn:

  • sicrhau bod y Comisynydd yn annibynnol o’r Cynulliad, ac felly’n gallu gweithredu’n hollol ddiduedd wrth ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad;

  • darparu pwerau newydd cryf i’r Comisiynydd, sy’n debyg i rai llys barn, i ymchwilio’n drwyadl i gwynion; a

  • rhoi cyfrifoldeb i’r Comisynydd hybu safonau uchel o ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad.

Gerard Elias QC

Mae gan Mr Elias yrfa sy’n ymestyn dros 40 mlynedd mewn maes cyfreithiol. Mae’n fargyfreithiwr ac yn fwy diweddar bu’n Gwnsler Arweiniol i ymchwiliad Baha Mousa.

Mae ganddo nifer o flynyddoedd o brofiad ym maes disgyblaeth broffesiynol ar lefel uchel yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig mewn chwaraeon.

Cafodd ei ddewis o blith casgliad cryf o ymgeiswyr i ymgymryd â’r rôl newydd hon.

Dywedodd Mr Elias: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael cynnig y swydd Comisiyndd Safonau ac rwy’n edrych ymlaen at gael ychwanegu at y gwaith da mae fy rhagflaenydd eisioes wedi ei wneud.

“Rwy’n ei gweld yn ddyletswydd arnaf i ddarparu sicrwydd i Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â phobl Cymru, bod Aelodau’r Cynulliad yn gweithredu’n unol â’r safonau uchaf posibl mewn bywyd cyhoeddus.

“Rwy’n siwr bod annibyniaeth y Comisiynydd, a’r pwerau cryfach sydd gennyf yn fy ngalluogi i ymchwilio’n fanylach i unrhyw ymddygiad sy’n taflu amhuaeth ar y safonau hyn. Dylai hyn ddangos bod swydd gyhoeddus Aelod Cynulliad i’w gweithredu gyda’r parch mwyaf.”