Mae Ed Williams wedi’i benodi yn Gyfarwyddwr Adnoddau newydd Comisiwn y Senedd.
Bu Ed yn gweithio am 20 mlynedd yn Awdurdod Llundain Fwyaf, a’i rôl fwyaf diweddar oedd Prif Swyddog Cynulliad Llundain, ble bu’n gweithio'n agos gyda thri Maer Llundain.
Fel Cyfarwyddwr Adnoddau, mi fydd yn llunio gwasanaethau presennol y Comisiwn ac wrth edrych tua’r dyfodol, er mwyn sicrhau bod gan y sefydliad y medrau a'r gallu i gefnogi'r Senedd i weithio’n effeithlon ac yn effeithiol yn ystod cyfnod o newid ar garlam. Gwnaed y penodiad yn dilyn proses recriwtio cystadleuol drylwyr.
Dywedodd Manon Antoniazzi, Clerc a Phrif Weithredwr y Senedd: “Yn ystod pandemig Covid-19, addasodd y Senedd yn gyflym er mwyn parhau â’n rôl o graffu ar Lywodraeth Cymru a bod yn llais i bobl Cymru. Yr her sy'n ein hwynebu nawr yw addasu'r ffordd rydyn ni'n gweithio a sicrhau bod ein hadnoddau yn cyd-fynd â'n huchelgais i fod yn senedd fodern, ystwyth.
“Mae'n newyddion da i'r Senedd ein bod wedi denu cyfarwyddwr mor brofiadol ac uchel ei barch i ymuno â'n uwch dîm. Rwy’n siŵr y bydd gwybodaeth a brwdfrydedd Ed yn amhrisiadwy wrth i ni symud drwy gyfnod o drawsnewid.”
Meddai Ed Williams: "Rwy'n falch iawn o ymuno â'r Senedd ar adeg mor gyffrous. Gyda diwygio etholiadol a ffyrdd hyblyg o weithio yn bynciau pwysig dan sylw, mae heriau gwirioneddol a chyfleoedd gwych o'n blaenau. Drwy sicrhau bod gan y Comisiwn yr adnoddau cywir yn y llefydd iawn ar yr adeg iawn, byddwn yn gallu parhau i gynnig cefnogaeth seneddol ragorol i’r Aelodau."
Bydd Ed yn dechrau ei swydd ym mis Chwefror 2022.