I ddathlu degfed pen-blwydd y Senedd, cynhelir penwythnos o weithgareddau ar gyfer teuluoedd.
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
Dyddiad: 5 a 6 Mawrth 2016
Bydd y penwythnos yn cynnwys perfformiadau gan Sioe Cyw S4C; cystadleuwyr rownd derfynol Britain's Got Talent, Ysgol Glanaethwy; Côr City Voices a syrcas No Fit State. Darperir gweithdai barddoniaeth hefyd gan Llenyddiaeth Cymru a bardd plant Cymru, Anni Llŷn.
Yn ogystal â’r perfformiadau a’r gweithdai, bydd gweithgareddau fel celf a chrefft, paentio wynebau a chwarae meddal i’r teulu cyfan eu mwynhau.
Bydd cyfle i ymwelwyr hefyd gael taith o amgylch un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru yn ystod y penwythnos.
Perfformiad Cerddorol – 10.15 a 12.15
Dydd Sadwrn: Côr City Voices Caerdydd
Dydd Sul: Ysgol Glanaethwy
Sioe Cyw – 10.45, 12.50, 13.45, 15.15, 15.35