Penwythnos i’r Teulu yn y Senedd

Cyhoeddwyd 02/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/02/2016

I ddathlu degfed pen-blwydd y Senedd,  cynhelir penwythnos o weithgareddau ar gyfer teuluoedd.  

Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd

Dyddiad: 5 a 6 Mawrth 2016

Bydd y penwythnos yn cynnwys perfformiadau gan Sioe Cyw S4C; cystadleuwyr rownd derfynol Britain's Got Talent, Ysgol Glanaethwy; Côr City Voices a syrcas No Fit State. Darperir gweithdai barddoniaeth hefyd gan Llenyddiaeth Cymru a bardd plant Cymru, Anni Llŷn.

Yn ogystal â’r perfformiadau a’r gweithdai, bydd gweithgareddau fel celf a chrefft, paentio wynebau a chwarae meddal i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Bydd cyfle i ymwelwyr hefyd gael taith o amgylch un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru yn ystod y penwythnos.

Perfformiad Cerddorol – 10.15 a 12.15
Dydd Sadwrn: Côr City Voices Caerdydd
Dydd Sul: Ysgol Glanaethwy

Sioe Cyw – 10.45, 12.50, 13.45, 15.15, 15.35