Plant sy'n siarad Cymraeg o Batagonia yn ymweld â'r Senedd

Cyhoeddwyd 28/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2015

​Mae plant sy'n siarad Cymraeg o Ysgol yr Hendre, Trelew, Patagonia, wedi cael eu croesawu i'r Senedd gan y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad.

Mae'r disgyblion, sydd rhwng 10 ac 11 oed, wedi teithio i Gymru i gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ger Caerffili.

 

Y Llywydd gyda'r Brif Athrawes a phlant o Ysgol yr Hendre

Mae'r ymweliad hefyd yn cyd-fynd â dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers i bobl o Gymru deithio i Batagonia, o Lerpwl, ar y Mimosa ym 1865.

Dywedodd y Fonesig Rosemary "Mae'n wych cael croesawu'r bobl ifanc hyn o ochr arall y byd sy'n siarad Cymraeg i'r Cynulliad.

"Roedd y bobl hynny o Gymru a adawodd Lerpwl ym 1865 yn gobeithio am fywyd gwell a bywyd lle gallent fyw drwy'r Gymraeg.

"Mae'n fraint imi groesawu eu hynafiaid yn ôl i Gymru 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach a gwybod eu bod wedi llwyddo i greu cymuned Gymreig ar ochr arall y byd lle mae'r iaith yn dal i fod wrth ei gwraidd."

Sefydlwyd Ysgol yr Hendre, yn ardal Chubut ym Mhatagonia, ym mis Mawrth 2006 ar ôl llwyddiant Ysgol Feithrin y Ddraig, y feithrinfa Gymraeg a sefydlwyd ym 1996.

Dyma'r ysgol Gymraeg/Sbaeneg ddwyieithog gyntaf ym Mhatagonia.

Yn ystod eu hymweliad â'r Senedd, gwnaethant ganu cân i'r Llywydd a oedd yn dathlu'r pethau gwahanol a'r pethau tebyg rhwng Cymru a'r Wladfa ym Mhatagonia.

Dywedodd Catrin Morris, un o athrawon Ysgol yr Hendre, "Mae'r ymweliad â Chymru yn gwireddu breuddwyd i bob disgybl.  Roedd pawb yn awyddus i ddod.

Mae'r rhieni wedi gweithio'n galed iawn i godi arian ar gyfer yr ymweliad er mwyn sicrhau bod eu plant yn cael y cyfle i wella eu Cymraeg a meithrin sylfaen gadarn ar gyfer eu haddysg."