“Plant wedi dysgu mwy am hanes Cymru mewn gwersi Cymraeg yn hytrach na gwersi hanes” - y Cynulliad Cenedlaethol yn clywed rhwystredigaeth athrawon a disgyblion

Cyhoeddwyd 14/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae Pwyllgor Diwylliant y Gymraeg a Chyfathrebu wedi clywed am rwystredigaeth gan athrawon, cymdeithasau hanes, disgyblion ac academyddion nad yw plant yn gwybod stori eu cymuned na'u gwlad.

 

Clywodd y Pwyllgor fod plant yn aml yn dweud eu bod wedi dysgu mwy am hanes Cymru mewn gwersi Cymraeg yn hytrach na gwersi hanes.

Gyda chwricwlwm newydd ar y gorwel, clywodd y Pwyllgor bryderon fod perygl bod y cwricwlwm newydd, sy'n llawer llai rhagnodol, yn cael ei ddatblygu heb ddealltwriaeth dda o'r hyn sy'n cael ei addysgu mewn ysgolion heddiw.

Dywedodd Dr Elin Jones wrth y Pwyllgor "nid ydym yn gwybod yn iawn beth yw'r sail y byddwn yn adeiladu arni ar gyfer y cwricwlwm newydd hwn. Nid ydym yn gwybod beth y mae athrawon yn ei feddwl o'r cwricwlwm presennol."

Angen adolygiad


Esboniodd llawer wnaeth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor fod y darlun yn anghyson ledled Cymru a bod y graddau y mae hanes Cymru yn cael ei addysgu yn amrywio o ysgol i ysgol. Mae 'na bryder hefyd nad oes dealltwriaeth glir o gynnwys a safon yr addysgu cyfredol am hanes yn ein hysgolion.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Estyn gynnal adolygiad thematig o drefniadau addysgu hanes Cymru mewn ysgolion. Dim ond ar ôl cael tystiolaeth gadarn a dealltwriaeth o'r trefniadau addysgu presennol y gellid gwneud asesiadau i lywio'r gwaith o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru 2022.

Amrywiaeth yn greiddiol


Dywedodd mudiadau Race Council Cymru, Heritage and Cultural Exchange a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru wrth y Pwyllgor fod yn rhaid i'r cwricwlwm adlewyrchu cyfraniad hanesyddol pobl o leiafrifoedd ethnig i Gymru. Yn ôl y mudiadau,  dylai Hanes Pobl Dduon, yn enwedig cyfraniadau pobl BAME i gymdeithas yng Nghymru, fod yn rhan benodol o'r cwricwlwm newydd ac na ddylai fod yn ddewisol.

Mae'r Pwyllgor yn credu y gall adlewyrchu stori ehangach Cymru leihau hiliaeth a hyrwyddo dealltwriaeth. Gan fod hanes Cymru yn amrywiol ac yn amlddiwylliannol rhaid gwreiddio hynny yn y cwricwlwm newydd.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod amrywiaeth yn elfen greiddiol o'r Cwricwlwm i Gymru 2022 a bod hanes yn cynrychioli holl gymunedau Cymru a'u cysylltiadau rhyngwladol.

Diffyg adnoddau dysgu


Er mwyn addysgu hanes Cymru yn effeithiol mewn ysgolion, mae angen hyfforddiant ac adnoddau ar athrawon. Mae'r Pwyllgor yn credu y dylai'r Cwricwlwm i Gymru 2022 gael ei gefnogi'n briodol gyda deunyddiau addysgu sy'n adlewyrchu'r uchelgais i addysgu hanes Cymru o safbwyntiau lleol a chenedlaethol, ac mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod adnoddau o'r fath ar gael yn helaeth.

Clywodd y Pwyllgor gan yr arbenigwyr a oedd yn rhoi tystiolaeth am enghreifftiau o hanes Cymru y dylid eu haddysgu, gan gynnwys deddfau Hywel Dda ac ysgolion Griffith Jones. Roedd rhai'n credu y dylai'r cwricwlwm newydd gynnwys rhestr o 'hanfodion', h.y. pynciau y mae angen eu haddysgu i'r holl ddisgyblion yn y wlad fel bod ganddynt wybodaeth gynhwysfawr am y digwyddiadau a ffurfiodd y Gymru gyfoes.

Arolwg cyhoeddus


Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg cyhoeddus yn ystod haf 2018, gan wahodd aelodau'r cyhoedd i ddewis o restr o bynciau posibl iddo edrych arnynt. Cymerodd bron i 2,500 o bobl ran yn yr arolwg barn. Fe wnaeth 44 % bleidleisio dros 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'.

Ers hynny, mae'r Pwyllgor wedi bod yn edrych ar sut mae hanes Cymru yn cael ei addysgu ar hyn o bryd a'r hyn y mae Cwricwlwm i Gymru 2022 Llywodraeth Cymru yn ei olygu o ran addysgu'r pwnc yn y dyfodol.

Dywedodd Aled James, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, sy'n dysgu hanes:


"Rwy'n falch o weld bod y Pwyllgor wedi edrych ar y mater yma. Mae'n hanfodol bod cysondeb  a phob disgybl yng Nghymru yn cael profiadau tebyg o hanes Cymru. Credaf fod galwad y Pwyllgor am adolygiad thematig am ddysgu hanes Cymru yn syniad da, er mwyn cael darlun o ble rydym o ran dysgu hanes ein cenedl. Mae'n gyfle i ESTYN amlygu cryfderau a denu sylw pob adran hanes yng Nghymru at y sefyllfa."


"Rydym yn gwybod fod rhai ysgolion  yn gwneud gwaith da yn y maes , a gobeithiaf y gallwn rannu'r ymarfer gorau i sicrhau fod pob disgybl yng Nghymru yn gadael gyda gwybodaeth sylfaenol o hanes Cymru."


"Er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer y cam nesaf yn ei haddysg dylir ffocysu ar hanes lleol, wedi ei ddysgu mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol. Dylai hefyd ymdrin â phobloageth amrywiol Cymru ac edrych ar hanes pob hil a chrefydd sy'n ran o'n gwlad."


"Er dylai'r cwricwlwm newydd yn 2002 ryddhau ysgolion i ddysgu yn unol a'i hanghenion, credaf y dylai'r cwricwlwm newydd gynnwys rhai prif ddigwyddiadau yn Hanes Cymru heb fod yn rhy gul ei ffocws."


"Cytunaf fod angen mynd i'r afael a hyfforddi athrawon ond credaf fod angen edrych ar yr ysgolion, adnabod ble mae'r bylchau o ran dysgu hanes Cymru yna byddai'n haws nodi ble mae angen mwy o hyfforddiant, gan fod llawer o'r hyfforddiant yma yn yr ysgolion erbyn hyn"


Dywedodd Bethan Sayed, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: "Rhaid dysgu hanes Cymru fel rhan o addysg ein plant - mae pobl ifanc wedi bod yn mynd drwy'r system addysg am rhy hir heb ddysgu'n iawn am stori eu cymuned na'u gwlad.

"Gyda chwricwlwm newydd ar y gorwel, mae ein hymchwiliad wedi taflu goleuni ar yr anghysondeb ledled Cymru a rhai o'r rhesymau pam nad yw hanes Cymru yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Fe wnaethom ni glywed am nifer o resymau fel diffyg deunyddiau addysgu a'r angen am hyfforddiant athrawon.

"Mae yna arfer da mewn rhai ysgolion ac rwy'n credu bod y cyhoedd o blaid gwella'r ffordd rydyn ni'n addysgu hanes Cymru i'n plant. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu lefel y trefniadau addysg hanes Cymru yn ein hysgolion. Dim ond pan fyddwn ni'n llwyr ddeall y darlun o ran addysgu hanes Cymru y gallwn ni roi mesurau ar waith i sicrhau bod athrawon yn cael y cymorth a'r deunyddiau sydd eu hangen arnynt.

"Rydym ni'n credu y dylai addysgu hefyd adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru - dylid cynnwys hanesion amrywiaeth hiliau a chrefyddau Cymru fel rhan o hyfforddiant athrawon, a dylid eu hadlewyrchu mewn deunyddiau addysgu.

"Rwy'n ddiolchgar i'r rhai a gymerodd ran yn ein harolwg cyhoeddus gan ofyn i ni edrych ar ddysgu hanes Cymru, ac i'r rhai ddaeth i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad. Rwy'n gobeithio y bydd ein hadroddiad heddiw yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd o ddifrif yr angen i addysgu ein hanes a'n treftadaeth ddiwylliannol i'r genhedlaeth nesaf."

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Addysgu hanes Cymru (PDF, 768 KB)