Pleidleisiau’r refferendwm yn cael eu cyfrif yn y Senedd heddiw

Cyhoeddwyd 04/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Nodyn i’r Dyddiadur

Pleidleisiau’r refferendwm yn cael eu cyfrif yn y Senedd heddiw

4 Mawrth 2011

Bydd y Comisiwn Etholiadol yn cyfrif pleidleisiau’r refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (4 Mawrth).

O ganlyniad i hyn, bydd y Senedd ar gau i’r cyhoedd drwy’r dydd.

Bydd yr adeilad hefyd ar gau i staff Aelodau’r Cynulliad, staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru a staff Llywodraeth Cymru sydd â phasys i’r adeilad.

Y Comisiwn Etholiadol - Canlyniadau’r refferendwm