Pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru
18.00 – 19.30, Dydd Mercher 12 Hydref 2011
Y Pierhead, Bae Caerdydd
A yw’r Cynulliad Cenedlaethol wir yn gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru?
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Hansard yn trefnu trafodaeth banel yn y Pierhead i ymchwilio i’r berthynas rhwng pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Bydd ‘Pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru’ yn drafodaeth rhwng panel o arbenigwyr ar amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc a’u perthynas â gwleidyddiaeth a’r system wleidyddol.
Hoffem gael eich barn ar ystod o faterion, gan gynnwys:
A yw gwleidyddion a phobl ifanc yn siarad at ei gilydd yn hytrach na gwrando ar ei gilydd?
A yw gwleidyddion yn gwneud dim ond esgus cefnogi’r syniad o annog brwdfrydedd a dealltwriaeth am wleidyddiaeth ymhlith pobl ifanc?
A oes angen addysg wleidyddol mwy dychmygus a difyr mewn ysgolion a cholegau?
Hoffem i chi ymuno yn y drafodaeth.
Anfonwch eich ateb drwy anfon neges at: Archebu@cymru.gov.uk
neu ffoniwch 0845 010 5500 erbyn dydd Mercher, 05 Hydref.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.