Pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 23/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru

18.00 – 19.30, Dydd Mercher 12 Hydref 2011

Y Pierhead, Bae Caerdydd

A yw’r Cynulliad Cenedlaethol wir yn gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru?

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Hansard yn trefnu trafodaeth banel yn y Pierhead i ymchwilio i’r berthynas rhwng pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Bydd ‘Pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru’ yn drafodaeth rhwng panel o arbenigwyr ar amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc a’u perthynas â gwleidyddiaeth a’r system wleidyddol.

Hoffem gael eich barn ar ystod o faterion, gan gynnwys:

  • A yw gwleidyddion a phobl ifanc yn siarad at ei gilydd yn hytrach na gwrando ar ei gilydd?

  • A yw gwleidyddion yn gwneud dim ond esgus cefnogi’r syniad o annog brwdfrydedd a dealltwriaeth am wleidyddiaeth ymhlith pobl ifanc?

  • A oes angen addysg wleidyddol mwy dychmygus a difyr mewn ysgolion a cholegau?

Hoffem i chi ymuno yn y drafodaeth.

Anfonwch eich ateb drwy anfon neges at: Archebu@cymru.gov.uk

neu ffoniwch 0845 010 5500 erbyn dydd Mercher, 05 Hydref.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

Politics versus young people in Wales 12 October 2011 Pierhead / Pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru 12 Hydref 2011 Pierhead