Polisi newydd ar fwyta’n iach mewn ysgolion, diolch i un o aelodau meinciau cefn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Polisi newydd ar fwyta’n iach mewn ysgolion, diolch i un o aelodau meinciau cefn y Cynulliad

20 Hydref 2009

Bydd prydau ysgol yn iachach ac yn cael eu rheoleiddio’n well o dan Fesur newydd a gyflwynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Mae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 wedi cael Cymeradwyaeth Frenhinol a dyma’r Mesur cyntaf a gynigiwyd gan Aelod Cynulliad i ddod yn rhan o gyfraith Cymru ers dechrau datganoli ddegawd yn ôl.

Mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i holl awdurdodau lleol ac ysgolion Cymru hybu bwyta ac yfed yn iach, a bydd yn golygu bod cyfyngiad ar faint o fraster, halen a siwgr a ganiateir mwyn bwydydd a diodydd yn yr ysgol.

Nod y Mesur yw mynd i’r afael â’r gordewdra sydd ar gynnydd yng Nghymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae un ym mhob pump o bobl ifanc 13 oed dros bwysau neu’n ordew.

Cafodd y Mesur arfaethedig ei gyflwyno gan Jenny Randerson, Aelod Cynulliad Canol Caerdydd, ym mis Mawrth 2008 ar ôl i’w henw gael ei dynnu o falot ymhlith yr Aelodau.

“Nid yw’r Mesur hwn yn golygu bwydo dail salad i’n plant. Mae’n golygu cynnig deiet sy’n gytbwys o ran maeth yn ein hysgolion ac annog plant i fwyta’n iach. Yn rhy aml, gwelwn a chlywn storïau yn y cyfryngau am y gordewdra sydd ar gynydd drwy’r wlad. Mae’r Mesur hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion bennu safonau cyson drwy Gymru a chyrraedd y safonau hynny er mwyn mynd i’r afael â’r broblem”, meddai Mrs Randerson AC.

Ychwanegodd, “Rwy’n hynod o falch mai dyma’r Mesur cyntaf gan Aelod Cynulliad mainc gefn i ddod yn rhan o gyfraith Cymru. Mae’n dangos y gall y pwerau newydd a roddir i’r Cynulliad wneud gwir wahaniaeth er mwyn newid bywydau pobl Cymru er gwell.”