Prif Weithredwr newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau ar ei swydd

Cyhoeddwyd 12/02/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Prif Weithredwr newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau ar ei swydd

Bydd Prif Weithredwr a Chlerc newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau ar ei swydd newydd ddydd Llun 12 Chwefror.   Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr ymadawol Ty’r Cwmnïau, ei bod yn llawn cyffro am ei swydd newydd:  “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau gweithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol,” meddai.   “Mewn ychydig fisoedd, yn dilyn etholiadau’r Cynulliad, byddwn yn dechrau’r Trydydd Cynulliad a bydd pwerau newydd yn cael eu cyflwyno o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru.  Mae’n gyfnod hanesyddol i’r Cynulliad ac i Gymru, ac yn amser gwirioneddol gyffrous i fod  yn ymuno â’r tîm.” Wrth groesawu’r penodiad dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad a Chadeirydd y Comisiwn Cysgodol: “Rwy’n hynod o falch bod Claire yn ymuno â ni fel yr ydym yn cychwyn ar yr her o adeiladu Cynulliad sy’n barod i wneud defnydd llawn o’i bwerau newydd. Mae gan Claire enw da ym maes gwasanaethau cyhoeddus ac yr wyf yn hyderus y bydd yn gwneud gwaith gwych fel yr ydym yn symud y Cynulliad yn ei flaen i’r cam nesaf o ddatganoli.” Nodiadau i’r Golygyddion:
  1. Mae’r swydd Prif Weithredwr a Chlerc yn un newydd a chafodd ei llenwi gan gystadleuaeth agored.  Comisiwn Cysgodol y Cynulliad luniodd y panel penodi, gyda chyngor gan ymgynghorwyr annibynnol,  a phasiwyd ei argymhelliad gan y Cynulliad llawn.  Mae’r swydd yn cynnwys tair elfen:  Prif Weithredwr Comisiwn y Cynulliad, Swyddog Cyfrifyddu a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.                   
  2. Bydd Comisiwn y Cynulliad yn sefydliad newydd o fis Mai 2007, wedi ei greu gan Ddeddf Llywodraeth Cymru.  Ni fydd staff Comisiwn y Cynulliad yn rhan o’r gwasanaeth sifil.  
  3. Dechreuodd Claire Clancy ar ei gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil yn 1977. Bu ei swyddi diweddaraf yn Y Swyddfa Batentau, lle'r oedd yn Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr Gweinyddiaeth ac Adnoddau rhwng dau gyfnod yn Nhy’r Cwmnïau; yn gyntaf fel Cyfarwyddwr Polisi a Chynllunio yn 1996-97, ac yna’n dychwelyd fel Prif Weithredwr a Chofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2002. Cymerodd Claire seibiant gyrfa rhwng 1997-99 i fynd gyda’i gwr i weithio iSt Helena. Tra roedd yno bu’n gweithio i Asiantaeth Ddatblygu St Helena ac i Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig yn ogystal â dysgu astudiaethau busnes.