Ar ddiwedd y Bumed Senedd, mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn amlinellu ei bryderon ynghylch i ba raddau y mae Senedd y DU a Llywodraeth y DU wedi bod yn deddfu mewn meysydd datganoledig.
Mae ymadawiad y DU o’r Uneb Ewropeaidd a'r ymateb i'r pandemig COVID-19 wedi dwyshau'r mater hwn. Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod deddfwriaeth sy’n ymwneud â Chymru, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn cael ei llunio yng Nghymru gan y Senedd a Gweinidogion Cymru.
Mae gadael yr UE hefyd wedi arwain at newidiadau i gyfansoddiad y DU, a hynny heb gydsyniad y seneddau datganoledig. Gwrthododd y Senedd gydsyniad i Ddeddf Cytundeb Ymadael â’r UE 2019 a Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ac ni roddwyd digon o amser iddi ystyried cydsyniad ar gyfer Deddf Perthynas yr UE yn y Dyfodol 2020.
O ganlyniad, mae'r Pwyllgor yn poeni am Gonfensiwn Sewel sydd wedi bod ar waith ers creu datganoli ym 1999, ac mae'n nodi na fydd senedd y DU fel rheol yn deddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad.
Cred y Pwyllgor ei bod yn hanfodol bod pob ochr yn dod i gyd-ddealltwriaeth ynghylch cymhwysiad Confensiwn Sewel, fel y gall holl lywodraethau a seneddau’r DU gytuno iddo. Os na fydd dealltwriaeth neu os na chaiff Confensiwn Sewel ei diwygio, yna cred y Pwyllgor yw ni fydd yn gweithio bellach ac ni fydd fawr o werth iddo, a bydd hefyd yn esgor ar densiwn diangen rhwng llywodraethau'r DU.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Senedd, drwy’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, wedi cymryd cyfrifoldeb dros graffu ar benderfyniadau ynghylch cyfiawnder. Daw hyn yn sgil argymhelliad gan Gomisiwn Cyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas) y dylai’r Senedd gymryd mwy o rôl wrth graffu ar y system gyfiawnder. Er bod cyfrifoldeb am lawer o’r system gan Lywodraeth y DU, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau cyfiawnder sylweddol.
Yn ôl adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn 2019, Gwariant Cyhoeddus ar system gyfiawnder Cymru, roedd tua 38 y cant o’r gwariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwario sylweddol hwn, nid yw Llywodraeth Cymru yn adrodd yn rheolaidd ar ei gwaith ym maes polisi cyfiawnder.
Er mwyn adlewyrchu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ym maes cyfiawnder ac er mwyn gwella tryloywder, cred y Pwyllgor y dylai Llywodraeth nesaf Cymru gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Senedd ar ei gwaith ar faterion ym maes cyfiawnder.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ym maes cyfiawnder yn cael eu nodi'n glir, a dylai un Gweinidog fod yn gyfrifol amdanynt.
Dywedodd Mick Antoniw AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y canlynol:
“Mae wedi bod yn ychydig flynyddoedd cythryblus i drefniadau cyfansoddiadol y DU. Mae Brexit a COVID-19 wedi profi o ddifrif sut mae datganoli yn gweithredu. Mae gwersi clir i'w dysgu o'r tymor Senedd dros y pum mlynedd diwethaf ynghylch sut mae deddfwriaeth yn cael ei llunio mewn meysydd datganoledig, sut mae llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd yn y DU a phwysigrwydd seneddau'n dwyn llywodraethau i gyfrif.
“Rydym yn credu y dylai deddfwriaeth ynglŷn â Chymru, o fewn cymhwysedd y Senedd, gael ei llunio yng Nghymru gan y Senedd a Gweinidogion Cymru.
“Gyda chyfiawnder yn dod yn fwy o fater i Lywodraeth Cymru ac yn faes gwariant sylweddol, rydym yn credu ei bod yn briodol bod y Senedd yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am hyn. Dylai Gweinidogion gyflwyno adroddiad blynyddol ar gyfiawnder a dylai fod un gweinidog yn Llywodraeth nesaf Cymru sydd â chyfrifoldeb dros gyfiawnder.
“Wrth inni agosáu at bum mlynedd ar hugain o ddatganoli, mae mwy o heriau yn debygol o godi i'r DU a'i gwledydd. Efallai y bydd angen i Aelodau o'r Senedd drafod dyfodol cyfansoddiadol ein gwlad gyda dinasyddion yng Nghymru. Bydd y Senedd nesaf a’r Pwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cyfansoddiadol mewn sefyllfa dda i gyfrannu’n sylweddol at y broses honno.”