Pwyllgor Archwilio yn canfod bod y ddarpariaeth o gyfleusterau celfyddydol yng Nghymru yn annigonol
Mae darpariaeth Cyngor Celfyddydau Cymru o gyfleusterau celfyddydol yn parhau i fod yn annigonol ar lefelau cymunedol a chenedlaethol yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad a gyhoeddwyd heddiw.
Mae’r Pwyllgor Archwilio hefyd wedi galw ar Gyngor y Celfyddydau i fod yn fwy rhagweithiol o ran parhau i gefnogi datblygiad cyfleusterau celfyddydol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a hyrwyddo manteision ei fuddsoddiadau yn y celfyddydau.
Mae Aelodau hefyd wedi canfod bod lle i wneud gwell defnydd o’r arian cyfyngedig sydd ar gael drwy ddatblygu partneriaethau gwaith mwy effeithiol gydag awdurdodau lleol, manteisio ar arian Ewropeaidd sydd ar gael a gwerthuso’r canlyniadau a ddaw o fuddsoddi cyfalaf yn y seilwaith celfyddydau hyd yn hyn i lywio buddsoddiad yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod prosesau ar gyfer rheoli risg a diogelu ei amlygiad ariannol yn “amlwg yn gadarnach” na’r hyn oedd yn bodoli yn nyddiau cynnar arian y Loteri a bod Cyngor y Celfyddydau wedi gwella ei weithdrefnau ar gyfer asesu a monitro risgiau yn gynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys rheoli’r risg o gynnydd mewn costau yn effeithiol. Mae hefyd yn defnyddio prosesau sydd wedi hen sefydlu er mwyn sicrhau cysondeb wrth asesu rhinweddau cynigion prosiectau.
Dywedodd David Melding, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor yn fodlon bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’w weithdrefnau rheoli risg ac wedi cyflwyno nifer o fesurau newydd effeithiol i wneud hyn.
Fodd bynnag, er bod Cyngor y Celfyddydau’n rhoi cymorth ymarferol i’w sefydliadau cleient, mae’n dibynnu arnynt hwy i awgrymu cynigion dichonol. Byddai’n well gan y pwyllgor weld Cyngor y Celfyddydau yn bod yn fwy rhagweithiol o ran helpu sefydliadau i sicrhau arian o ffynonellau eraill ac ysgogi awdurdodau lleol i fanteisio ar gyfleoedd ariannu Ewropeaidd drwy eu helpu i ddod o hyd i brosiectau addas penodol a hyrwyddo cyfraniad sylweddol y celfyddydau i adfywio cymunedol.”