Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ailedrych ar Wybodeg y GIG ar ôl gwallau wrth adrodd am COVID

Cyhoeddwyd 07/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru wedi edrych ar broblemau gyda systemau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) GIG Cymru, fel rhan o’i ymchwiliad i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS). Mae pryderon y Pwyllgor wedi dod i’r amlwg eto yn dilyn datgelu bod dau fwrdd iechyd wedi tangofnodi nifer y marwolaethau o’r coronafeirws.  Roedd hyn oherwydd nad oedd y ddau fwrdd iechyd wedi defnyddio’r ‘System Cymru Gyfan’ electronig ar gyfer adrodd. 

Lansiwyd ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru ar ôl hepgor 84 o farwolaethau o ddata a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Datgelodd yr ymchwiliad hefyd fod 31 marwolaeth arall yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi’u hepgor yn wreiddiol o ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Nick Ramsay AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: 

“Mae swm sylweddol o arian cyhoeddus wedi’i wario ar systemau TGCh y GIG yng Nghymru, ac ers blynyddoedd lawer mae’r systemau hyn wedi cael problemau o ran ymarferoldeb a pherfformiad. Mae cam-adrodd am farwolaethau yn sgîl y coronafeirws y gwanwyn hwn wedi tynnu sylw at y ffaith bod y problemau a amlygwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn parhau. Mae diffyg adroddiadau electronig cyson wedi arwain at dangofnodi’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid 19 dros gyfnod y pandemig. Mae canlyniadau difrifol i hyn o ran monitro’r pandemig a llywio’r camau sydd angen eu cymryd i drechu’r feirws.

“Er ein bod yn croesawu rhai datblygiadau diweddar i wella Gwybodeg y GIG yng Nghymru, fel cynllun ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi rhagor o bwyslais ar dechnoleg ddigidol ar gyfer y dyfodol, ac ymrwymiad i roi rhagor o gyllid i’r maes hwn, rydym yn parhau i bryderu am gyflymder y newid.

“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ailedrych ar Wasanaeth Gwybodeg y GIG yn yr hydref, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ei chynnydd wrth weithredu’r newidiadau a’r gwelliannau a argymhellwyd gennym ddwy flynedd yn ôl.”