Pwyllgor Cyllid yn galw am dystiolaeth i gynlluniau Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat

Cyhoeddwyd 19/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cyllid yn galw am dystiolaeth i gynlluniau Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn galw am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i’r defnydd o Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat (gan gynnwys cynlluniau Menter Cyllid Preifat).   Mae’r Pwyllgor yn dymuno ymchwilio i’r modd y gellir defnyddio arian y sector preifat i hyrwyddo prosiectau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae wedi cytuno ar y cylch gorchwyl canlynol ar gyfer yr ymchwiliad:    Pwyso a mesur y cyfleoedd i ddefnyddio arian preifat ar gyfer prosiectau’r sector cyhoeddus gan gyfeirio’n benodol at:
  1. y manteision, y costau a’r peryglon posibl a all fod ynghlwm â hyn;
  2. unrhyw newidiadau polisi (boed i gael gwared â rhwystrau neu i roi rheolaeth) a all fod eu hangen i gael y canlyniad gorau posibl; a
  3. chanllawiau ymarferol i alluogi’r sector cyhoeddus i gael y trefniadau mwyaf manteisiol o fewn y fframwaith polisi y cytunwyd arno.
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig gan grwpiau sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd ar yr ymchwiliad hwn.   Gofynnir i grwpiau sydd â diddordeb gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor, i gyrraedd ddim hwyrach na dydd Gwener 30 Tachwedd 2007.   Os yw’n bosibl gofynnir i chi ddarparu fersiwn electronig ar ffurf MS Word neu Rich Text format, naill ai trwy  e-bost at Karl.gomila@cymru.gsi.gov.uk neu ar ddisg. i John Grimes, Clerc y Pwyllgor Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA Dylai tystion fod yn ymwybodol unwaith y mae tystiolaeth ysgrifenedig wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor caiff ei drin fel eiddo’r Pwyllgor.  Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan a gall gael ei argraffu wedyn gyda’r adroddiad. Mae’r Pwyllgor hefyd yn hysbysebu am gynghorydd arbenigol i gynorthwyo gyda’r ymchwiliad – mae rhagor o fanylion ar wefan y Cynulliad. Rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth