Pwyllgor Cynulliad am glywed barn y cyhoedd am y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion

Cyhoeddwyd 20/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad am glywed barn y cyhoedd am y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion

Mae’r Pwyllgor ar y Mesur arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion, a sefydlwyd i ystyried a chyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2008, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i glywed barn rhai sydd â diddordeb.

Diben y Mesur arfaethedig yw darparu ar gyfer hyrwyddo bwyta’n iach mewn ysgolion, yng Nghymru. Bydd y Mesur arfaethedig yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethol a phenaethiaid ysgolion i hyrwyddo bwyta’n iach mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu y bydd bwyta’n iach yn dod yn rhan o’r drefn arolygu ysgolion ac y bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethol gynnwys bwyta’n iach yn eu hadroddiad blynyddol i rieni.  Bydd yn ofynnol i Weinidogion hefyd gyflwyno adroddiad yn flynyddol ar y cynnydd a wneir ar faeth mewn ysgolion ac ar wella safonau yn hyn o beth. Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol i annog mwy o ddisgyblion i fwyta prydau ysgol yn gyffredinol ac i sicrhau bod y canran uchaf posibl o’r rhai sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn dewis eu bwyta.                                                 

Dywedodd Kirsty Williams AC, Cadeirydd y Pwyllgor  “Mae’n holl bwysig ein bod yn rhoi’r cychwyn gorau posibl i’n plant yma yng Nghymru yn nhermau gofalu amdanynt eu hunain a chael ffordd o fyw iach. Gall ysgolion chwarae rôl anferth i wneud hyn, nid yn unig trwy eu dysgu ond hefyd trwy sicrhau bod y bwydydd cywir ar gael i’w disgyblion amser prydau bwyd. Buaswn yn annog unrhyw un sy’n ymwneud mewn unrhyw fodd i gyflenwi a darparu bwyd mewn ysgolion, a hefyd rhieni, athrawon a phlant a phobl ifanc i gyflwyno’u barn            ar y darn o ddeddfwriaeth bwysig hon i’r Pwyllgor”

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu barn gan rai sydd â diddordeb, ar y pwyntiau canlynol:

  • A oes angen Mesur Cynulliad i hyrwyddo bwyta’n iach mewn ysgolion yng ngoleuni mentrau sy’n bodoli eisoes o fewn y maes polisi hwn?

  • A ydych chi’n cefnogi’r darpariaethau allweddol a nodir yn y Mesur arfaethedig, h.y.

  • Beth yw goblygiadau ymarferol gweithredu’r darpariaethau hyn?

  • A oes darpariaethau eraill yr hoffech chi eu gweld yn cael eu hychwanegu at y Mesur Cynulliad arfaethedig?

  • A ydych chi’n credu y bydd y Mesur Cynulliad arfaethedig yn cyflawni ei ddiben a’i nod cyffredinol, h.y. yn galluogi i bolisi holistig, cynhwysfawr sydd â’i wreiddiau yng Nghymru ar faeth mewn ysgolion i gael ei ddatblygu a’i roi ar waith?

Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn  dydd Gwener, 20 Mehefin 2008 fan bellaf.   Os yn bosibl, a oes modd ichi roi fersiwn electronig yn MS Word neu ar fformat Rich Text, naill ai trwy e-bostio Swyddfaddeddfwriaeth@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.i'r: Swryddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Cerdydd, CF99 1NA

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i’w craffu gan y cyhoedd ac fe allent hefyd gael eu gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgor. Os nad ydych am i’ch ymateb neu’ch enw gael ei gyhoeddi mae’n bwysig eich bod yn pwysleisio hynny ar ddiwedd eich cyflwyniad.   

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor.  O ganlyniad, gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth atodol i adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth y mae’n ystyried sy’n wybodaeth bersonol.

Pe digwydd cais am wybodaeth a gyflwynir o dan ddeddfwriaeth y DG, efallai y bydd yn angenrheidiol datgelu’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu. Gall hyn gynnwys gwybodaeth sydd wedi’i thynnu allan gan y Cynulliad Cenedlaethol rhag ei chyhoeddi.                                

Os ydych chi’n darparu unrhyw wybodaeth, ar wahân i wybodaeth bersonol, yr ydych chi’n teimlo nad yw’n addas ei datgelu’n gyhoeddus, dylech chi nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi, a rhoi rhesymau i gefnogi hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.