“Nid yw Cymru’n cael chwarae teg gan ddarlledwyr”

Cyhoeddwyd 25/03/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/03/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn lansio adroddiad heddiw sy’n galw am i wariant y BBC ar gynnwys teledu yng Nghymru gynyddu o flwyddyn i flwyddyn nes ei fod yn gyfartal â’r hyn mae’r gorfforaeth yn ei wario yn yr Alban.

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd:

“Mae’n amlwg nad yw Cymru’n cael chwarae teg gan ein darlledwyr. Mae’n ofynnol i’r BBC, ITV ac S4C wasanaethu gwylwyr Cymreig a’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded mewn gwahanol ffyrdd, ond mae’n amlwg nad ydyn nhw’n cyflawni’n llawn yr hyn a ddisgwylir ar hyn o bryd.

“Ni all fod yn iawn bod y BBC yn gwario dwywaith cymaint ar gynnwys Saesneg yn yr Alban ag y mae’n ei wario yng Nghymru – mae talwyr ffi’r drwydded yng Nghymru yn haeddu gwell – rydym yn galw am gynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y gwariant hyd nes y bydd cydraddoldeb â’r Alban.

“Mae darlledu yn chwarae rhan bwysig yng Nghymru –portreadu a llunio hunaniaeth Gymreig. Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ein democratiaeth, gan sicrhau bod llywodraethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cael eu dwyn i gyfrif. Wrth i dirwedd y cyfryngau modern newid, mae’n hanfodol inni gael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol.

“Heddiw, rydym yn galw ar ddarlledwyr, llywodraethau a rheoleiddwyr i dderbyn ein hargymhellion a gwneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn cael gwasanaeth priodol oddi wrth y darlledwyr maen nhw’n cyfrannu atyn nhw ac yn dibynnu arnyn nhw.”

Rhaglenni ITV

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Ofcom i fynnu bod ITV yn cynhyrchu mwy o’i gynnwys yng Nghymru – mae’n ofynnol i ITV wneud 35% o’i raglenni y tu allan i’r M25.

Fodd bynnag, yn ôl data Ofcom, yn 2022, roedd gwariant rhwydwaith ITV ar gyfer DU wedi plymio i bron i 0% yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd y ffigur oddeutu 5%.

Cyllid S4C

Mae adroddiad heddiw yn amlinellu bod angen mwy o arian ar S4C, ynghyd â fformiwla ariannu a fyddai’n rhoi sicrwydd iddi, i’w helpu i gynllunio at y dyfodol yn well. Mae trefniant ariannu’r darlledwr wedi newid deirgwaith yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.

Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau cyllid S4C mewn termau real dros 30%. Mae’r setliad ariannu hwn yn cyfyngu’n ddifrifol ar y darlledwr, a hynny ar adeg pan fo angen ehangu i ddarparu gwasanaethau ar draws llwyfannau darlledu ac ar-alw.

Byddai cynyddu cymorth i S4C nid yn unig yn ei helpu i gyflawni ei rhwymedigaethau fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, byddai hefyd yn sicrhau y gallai barhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi targed Cymraeg 2050.

Gwariant S4C ar draws Cymru

Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar S4C i sicrhau dosbarthiad mwy cyfartal o’i gwariant drwy Gymru. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’i gwariant yn digwydd yn y de.

Mae S4C yn cydnabod bod angen iddi wneud mwy a bydd y Pwyllgor yn monitro'r sefyllfa.

Rôl y Senedd a Llywodraeth Cymru

Er mai mater i Lywodraeth y DU yw darlledu ar hyn o bryd, fe edrychodd ymchwiliad y Pwyllgor ar rôl y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â darlledu yng Nghymru.

Mae adroddiad heddiw’n cytuno â’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi darlledu, craffu ac atebolrwydd.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar y Senedd i gael y cyfle i gynnal gwrandawiadau cyn penodi gydag ymgeiswyr a ffafrir ar gyfer aelodau Cymru o fyrddau Ofcom a’r BBC a Chadeirydd S4C, ac mae’n galw am iddi fod yn ofynnol i Lywodraeth y DU gael cytundeb Llywodraeth Cymru wrth benodi Cadeirydd S4C.

 


Mwy am y stori hon

Y sefyllfa sydd ohoni: Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru. Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru