Pwyllgor i dderbyn tystiolaeth gan gynghorau sgiliau sector ar gyfer ei ymchwiliad i addysg uwch yng Nghymru

Cyhoeddwyd 06/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i dderbyn tystiolaeth gan gynghorau sgiliau sector ar gyfer ei ymchwiliad i addysg uwch yng Nghymru

Bydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i dderbyn tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i gyfraniad economaidd addysg uwch yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf.                                    

Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan amrwy o gynghorau

sgiliau sector o bob rhan y Gymru yn cynnwys: SkillsActive, Semta, Proskill, Asset Skills, Go Skills, EU Skills, IMI (Automotive), Skillset, Skills for Health, Skills for Justice, Skills for Care and Development a Government Skills

Bydd Aelodau hefyd yn clywed tystiolaeth gan Graham Waters, Cyfawyddwr, GTW Developments a Dr Aled Finniear, Prif Weithredwr Park Place Research Limited

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn cynnwys:

  • Ystyried natur cysylltiad strategol Sefydliadau Addysg Uwch gyda busnesau yng Nghymru a thu hwnt a’u heffaith ar yr economi yn lleol a rhanbarthol             

  • Llwyddiant Sefydliadau Addysg Uwch yn cael mynediad at arian o wahanol ffynonellau

  • I ba raddau y mae addysg mentro wedi’i gorffori yn y Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.

  • Y cyfraniad y gall Sefydliadau Addysg Uwch ei wneud i’r agenda sgiliau  

  • Cyfraniadau ehangach prifysgolion yn eu lleoliadau           

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 1.30pm yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd, ddydd Iau, Mehefin 12.

Gwybodaeth am y pwyllgor a’i ymwchwiliad