Pwyllgor i glywed y sefyllfa ddiweddaraf o ran Camddefnyddio Sylweddau

Cyhoeddwyd 18/01/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i glywed y sefyllfa ddiweddaraf o ran Camddefnyddio Sylweddau

Bydd Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio’r Cynulliad yn clywed y sefyllfa ddiweddaraf o ran camddefnyddio sylweddau yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 18 Ionawr 2007. Bydd yr Aelodau’n derbyn adroddiad cynnydd ar sut y mae argymhellion  Adolygiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio o Gamddefnyddio Sylweddau (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2006) yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.     Bydd y Pwyllgor hefyd yn clywed y sefyllfa ddiweddaraf o ran y cynnydd a wnaed o dan y Ddeddf Arbed Ynni Cartref, ac ymrwymiadau’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio gyda golwg ar Gyfle Cyfartal, ac yn archwilio Cynllun Gweithredu Strategol Drafft Cynllun y Sector Gwirfoddol. Dywedodd Janice Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor “Rhoddodd adolygiad polisi’r Pwyllgor ar Gamddefnyddio Sylweddau gyfle pwysig iawn i archwilio’r mater ac, yn y pen draw, argymell ffordd ymlaen i fynd i’r afael â’r broblem.  Rhan hanfodol o unrhyw adolygiad polisi yw sut y mae’r argymhellion yn cael eu gweithredu, a bydd y diweddariad hwn yn caniatáu i’r Pwyllgor werthuso a rhoi barn ar y cynnydd hyd yma.”    Cynhelir y cyfarfod am 9.30am ddydd Iau 18 Ionawr yn y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda I archebu sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost at archebu@cymru.gsi.gov.uk Rhowch wybod i’r swyddfa archebu am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych.