Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i’r broses o ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru
Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn y Cynulliad ar fin cychwyn ymchwiliad i’r addysg a ddarperir yng nghefn gwlad Cymru a’r broses o ad-drefnu ysgolion gwledig.
Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gwrando ar dystiolaeth gan Grwp Gweithredu Ysgolion Cymunedol Powys mewn cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3 yn y Senedd am 11.15a.m. ddydd Mercher 4 Mehefin.
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
cyd-destun addysgol ysgolion gwledig;
a oes unrhyw faterion cymdeithasol ac addysgol ehangach ynghlwm wrth ad-drefnu ysgolion gwledig, megis yr effaith ar gymunedau gwledig, teuluoedd a phlant, a sut y caiff hyn ei ystyried fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau;
enghreifftiau o ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru a mannau eraill i ddeall y profiadau ac i ddysgu oddi wrth ddulliau arloesol;
polisi a chyfarwyddyd presennol ac arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a ydynt yn ymdrin yn foddhaol ag unrhyw broblemau ehangach a all fod yn gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion gwledig;
rôl Estyn o ran arolygu ysgolion ac awdurdodau addysg lleol.