Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Cynulliad yn galw am ddadl ar strategaeth llifogydd

Cyhoeddwyd 10/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Cynulliad yn galw am ddadl ar strategaeth llifogydd

10 Chwefror 2010

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (sef y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth ynghynt) yn galw am y cyfle i’r Cynulliad drafod a chymeradwyo cynigion am strategaeth genedlaethol i atal llifogydd ac erydu arfordirol.

Mae cymal o Fesur Seneddol ynghylch Rheoli Llifogydd a Dwr Llywodraeth y DU yn cyfeirio at greu’r strategaeth yng Nghymru, ac mae’r Mesur hwnnw yn cael ei ystyried yn San Steffan ar hyn o bryd.

Mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn datblygu, yn cynnal ac yn rhoi strategaeth genedlaethol ar waith ar gyfer rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

Yn ogystal, mae’r Mesur yn rhoi pwer i Lywodraeth Cymru oruchwylio sut y mae cyrff megis awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei weithredu.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn pryderu nad yw’r Cynulliad yn cael cyfle i graffu ar y Mesur ac y bydd yn rhoi’r pwerau’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Janet Ryder AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn credu y dylai’r Mesurau sy’n rhoi pwerau i Gymru eu rhoi i’r Cynulliad Cenedlaethol fel y gall graffu ar a chymeradwyo sut y mae Gweinidogion Cymru yn eu defnyddio. Felly, mae’n siomedig bod y Mesur hwn yn rhoi’r pwerau yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru heb fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cyfle i graffu arno.

“Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod angen dybryd i Weinidogion Cymru gymryd trosolwg strategol o lifogydd ac erydu arfordirol. Efallai nad yw deddfwriaeth gyfredol yn rhoi’r holl bwerau sydd eu hangen ar Weinidogion i reoli’r risgiau hyn. Felly, yn yr achos hwn, rydym yncreu y dylai’r Mesur roi’r pwerau i’r Gweinidogion yn uniongyrchol.

“Fodd bynnag, bydd y Strategaeth yn rhan bwysig o ymateb y Llywodraeth i’r risg o lifogydd ac erydu, ac felly mae’n hanfodol bod ymgynghoriad eang yn cael ei gynnal ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn y Strategaeth a sut y bydd yn cael ei weithredu.

“Dylai’r Cynulliad Cenedlaethol a’i bwyllgorau craffu gael y cyfle i ystyried y Strategaeth yn ei ffurf ddrafft a dylai Aelodau’r Cynulliad gael y cyfle i drafod argymhellion Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad”.

Yn ogystal, mae’r adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn galw am newidiadau i’r Mesur fel bod prosesau apelio mwy eglur yn cael eu cynnwys yn ynddo.

Mae’r Pwyllgor yn pryderu nad yw’r Mesur yn rhoi arwydd digon clir ynghylch sut y bydd y broses apelio yn gweithio. Mae’n gofyn i hyn gael ei gywiro ac i Lywodraeth Cymru argymell newidiadau i Lywodraeth y DU.