Methiant Llywodraeth Cymru o ran cerbydau trydan yn ‘embaras ac yn annerbyniol’

Cyhoeddwyd 28/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/05/2023   |   Amser darllen munudau

Mae strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru o ran cael mwy o gerbydau trydan ar y ffordd yn 'annigonol' ac yn llawn addewidion sydd wedi’u torri, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd. 

Mae adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn dadansoddi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru mewn 'Cynllun Gweithredu' ym mis Hydref 2021, ac wedi canfod methiannau lluosog o ran cyflawni addewidion a wnaed llai na 18 mis yn ôl. 

O’r naw prif ymrwymiad a wnaed yn y ddogfen, canfu’r Pwyllgor trawsbleidiol nad oedd pump ohonynt wedi cael eu cyflwyno ar amser. 

Mewn sawl achos, nododd Llywodraeth Cymru mai dim ond yn awr y byddai’n dechrau ystyried a ddylid bwrw ymlaen â chamau penodol, neu sut i wneud hynny, fisoedd ar ôl y terfyn amser ar gyfer eu cwblhau. 

Yn ôl y Pwyllgor, mae diffyg cynnydd yn tanseilio hygrededd y Cynllun Gweithredu ac yn bwrw amheuaeth ar ymrwymiad – neu allu – Llywodraeth Cymru i wireddu eu haddewidion.   

Cynllun Diffyg Gweithredu 

Mewn ardaloedd gwledig, mae diffyg capasiti grid trydan yn broblem sylweddol. Mae hyn wedi arwain at oedi hir o ran cysylltu pwyntiau gwefru, a dosbarthiad anwastad o wefrwyr ledled Cymru. 

Mae Cynllun Gweithredu 2018 yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i sefydlu grŵp cysylltiadau i gydlynu’r broses o ddatblygu’r seilwaith hwn ledled Cymru. Eto i gyd, nid yw’r Grŵp wedi’i sefydlu. 

Canfuwyd yr un mater mewn un arall o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru. Er mwyn pennu'r lleoliadau gorau ar gyfer pwyntiau gwefru ledled y wlad, roedd y Cynllun Gweithredu yn cynnig sefydlu grŵp i ddwyn sefydliadau preifat, cyhoeddus, dielw a chymunedol ynghyd; eto i gyd, nid yw hwn ychwaith wedi’i greu. 

Mae'r Pwyllgor yn galw am ffurfio'r naill grŵp a’r llall yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf fel mater o frys. 

Y ddarpariaeth gwefru 

Yn ôl yr adroddiad, y 2,400 o wefrwyr yng Nghymru (allan o 37,000 ar draws y DU) yw’r nifer isaf o ddyfeisiadau gwefru cyhoeddus a dyfeisiau cyflym/uwchgyflym fesul 100k o’r boblogaeth ym Mhrydain Fawr. 

Clywodd y Pwyllgor gan Gymdeithas Cerbydau Trydan Cymru (EVA Cymru) mai diffyg pwyntiau gwefru cyflym ar lwybrau allweddol ledled Cymru yw’r rhwystr mwyaf arwyddocaol i’r defnydd o gerbydau trydan. 

Er gwaethaf twf mawr yn nifer y gwefrwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yng Nghymru ar hyn o bryd mae 1 gwefrydd cyflym fesul 15,000 o bobl o gymharu ag 1 fesul 11,000 o bobl ar lefel y DU. 

Gwefru yn y cartref ac yn y swyddfa 

Er bod Llywodraeth Cymru wedi addo adolygu rheoliadau adeiladu yn 2022 i wella’r sefyllfa, canfu’r Pwyllgor nad oedd hyn wedi’i gyflawni ychwaith. 

Dywedodd EVA Cymru wrth y Pwyllgor fod rheoliadau yng Nghymru ar hyn o bryd ar ei hôl hi o’u cymharu â’r Alban a Lloegr o ran caffael pwyntiau gwefru mewn eiddo domestig a masnachol. 

Yn ôl EVA Cymru, yn yr Alban, rhaid darparu pwynt gwefru safonol (7kW) ar gyfer pob adeilad preswyl gydag o leiaf un lle parcio, a chymhareb o 1:10 ar gyfer pob adeilad dibreswyl. Soniodd EVA Cymru ymhellach fod gan Loegr ofynion tebyg ac mae’r rheoliadau hynny hefyd yn ymestyn i waith adnewyddu sylweddol. 

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwblhau adolygiad o reoliadau adeiladu cyn gynted â phosibl ac y dylai’r adolygiad hwnnw hefyd ystyried sut y gellid annog gwestai ac atyniadau ymwelwyr i gael pwyntiau gwefru. 

Yn ôl Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith: “Mae symud i Gymru wyrddach yn golygu bod mwy ohonom yn newid o gerbydau petrol neu ddisel i fodelau trydan. Fodd bynnag, fe fydd pobl eisiau gwneud hynny dim ond os yw'r seilwaith gwefru yng Nghymru yn ddigon da, a'n bod ni'n hyderus y gallwn wefru ein ceir pan fydd angen. Yn rhwystredig ddigon, mae hyn ymhell o fod yn wir heddiw. 

“Bu rhywfaint o gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, ond dyw’r sefyllfa sydd ohoni ddim yn agos i'r hyn y dylai fod. Dyw Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ddim yn 18 mis oed, eto ac mae rhai o'r targedau eisoes wedi'u methu. Mae hyn yn annerbyniol – ac yn embaras. 

“Pan ysgrifennwyd y cynllun hwnnw, fe ddisgrifiwyd Cymru fel bod â’r nifer isaf o gerbydau trydan a'r nifer isaf o bwyntiau gwefru ym Mhrydain Fawr, a does ’na’r un peth yr ydym wedi'i weld ers hynny fyddai wedi newid y ffaith ddigalon honno. Ar sawl mater, mae'n fwy addas ei alw'n ‘gynllun diffyg gweithredu’. 

“Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd gan Lywodraeth Cymru ond mae eu cynnydd ar y mater hollbwysig hwn eisoes yn annigonol. Mae angen i Lywodraeth Cymru wella’r sefyllfa a dilyn argymhellion y Pwyllgor os ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â lleihau allyriadau carbon y genedl, a chael mwy ohonom ni i mewn i gerbydau trydan.” 

 


 

Mwy am y stori hon

Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru.
 

Darllenwch yr adroddiad