Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio barn ynghylch deddfwriaeth i ddiwygio trefniadau gan awdurdodau lleol i sicrhau gwelliant a chynllunio cymunedol

Cyhoeddwyd 17/10/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio barn ynghylch deddfwriaeth i ddiwygio trefniadau gan awdurdodau lleol i sicrhau gwelliant a chynllunio cymunedol

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor y Cynulliad ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol ddydd Mawrth 14 Hydref. Etholwyd Janice Gregory AC yn Gadeirydd y pwyllgor. Yr Aelodau eraill yw Dai Lloyd AC, Nick Ramsay AC, Jenny Randerson AC a Joyce Watson AC.

Sefydlwyd y pwyllgor er mwyn ystyried a chyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru) a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Os caiff y Mesur ei basio, bydd yn diwygio’r sail statudol ar gyfer sicrhau gwelliant gan awdurdodau lleol (sy’n cynnwys cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau’r parciau cenedlaethol ac awdurdodau’r gwasanaethau tân ac achub) yn ogystal â newid y gyfundrefn cynllunio cymunedol.

Er mwyn cynorthwyo ei waith, bydd y pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ac yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid allanol yn ogystal â thystiolaeth gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Bydd y pwyllgor yn canolbwyntio ei waith craffu ar y ddeddfwriaeth ar y meysydd a ganlyn:

i) yr angen i Fesur arfaethedig gyflawni ei ddibenion i:  

  • ddiwygio’r sail statudol ar gyfer gwelliannau i’r gwasanaeth a roddir gan awdurdodau lleol; a  

  • diwygio cynllunio a strategaethau cymunedol;

ii) a fydd y Mesur arfaethedig yn cyflawni ei ddibenion;prif ddarpariaethau’r Mesur a nodir yn y Mesur arfaethedig ac a ydynt yn briodol i gyflawni ei ddibenion;  

(iii) y rhwystrau posibl rhag gweithredu’r prif ddarpariaethau; a  

(iv) safbwyntiau’r rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio o dan y drefn newydd.


Dywedodd Janice Gregory AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’n bleser gennyf gadeirio’r Pwyllgor newydd ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol. Dros y blynyddoedd, mae’r Cynulliad wedi ceisio gwella ansawdd bywydau pobl yng Nghymru, a gwella’u profiadau yn eu cymunedau lleol.  

“Rydym am sicrhau bod awdurdodau lleol yn perfformio’n dda, a’u bod yn gweithio er budd pobl leol heddiw, yfory ac yn y dyfodol. Bwriad y ddeddfwriaeth y mae’r pwyllgor wedi cael y dasg o graffu arni yw cyfrannu at y broses honno.

“Swyddogaeth y pwyllgor yw sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn briodol, yn addas at y diben ac y bydd yn cyflawni ei hamcanion. Er mwyn gwneud hyn, rydym am i bawb sydd â diddordeb yn y Mesur arfaethedig gyflwyno tystiolaeth i fod yn sail i’n gwaith.”

Gellir dod o hyd i fanylion llawn ymgynghoriad y pwyllgor ar wefan y Cynulliad: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-lg.htm

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod erbyn dydd Gwener 28 Tachwedd 2008. Os yn bosibl, dylid cyflwyno fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, ar neges e-bost i Legislationoffice@wales.gsi.gov.uk neu anfonwch gopi caled at:

Gareth Williams
Clerc y Pwyllgor
Swyddfa Ddeddfwriaeth
4ydd Llawr
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i’w craffu arnynt gan y cyhoedd ac fe allent hefyd gael eu gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd pwyllgor.

Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb na’ch enw, mae’n bwysig i chi nodi hyn ar ddiwedd eich cyflwyniad.

Nodiadau Ychwanegol:

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.