Mae mwyafrif o aelodau Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo'r ymgeisydd dewisol i gadeirio Awdurdod Cyllid Cymru.
Bu Kathryn Bishop gerbron y Pwyllgor ddydd Iau 16 Chwefror mewn gwrandawiad cyn penodi - y tro cyntaf i wrandawiad o'r fath gael ei gynnal ar gyfer penodiad Gweinidogol.
Er i fwyafrif o aelodau'r Pwyllgor ddod i'r casgliad bod Ms Bishop yn ddewis addas i fod yn Gadeirydd ar Awdurdod Cyllid Cymru, roedd un aelod yn anghytuno y dylid ei phenodi.
Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Er nad oedd un aelod yn fodlon cymeradwyo'r penodiad, roedd aelodau eraill y Pwyllgor yn teimlo bod Ms Bishop yn benodiad addas ar gyfer y swydd bwysig hon. Mae gan Ms Bishop brofiad helaeth, ac rydym yn gobeithio y bydd yn defnyddio'r profiad hwn i sicrhau llwyddiant Awdurdod Cyllid Cymru.”
“Dyma'r tro cyntaf i wrandawiad cyn penodi gael ei gynnal ar gyfer penodiad Gweinidogol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Credaf fod gwrandawiadau o'r fath yn gwneud penodiadau cyhoeddus yn fwy atebol, ac yn cyfrannu at sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r gwrandawiadau hyn yn digwydd yn gyson yn San Steffan, a byddwn yn gobeithio y bydd hyn yn arwain y ffordd i Bwyllgorau'r Cynulliad gynnal rhagor o wrandawiadau maes o law.”