Pwyllgor y Cynulliad: Mae angen mwy o roddwyr organau ar Gymru ond nid caniatâd tybiedig

Cyhoeddwyd 30/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad: Mae angen mwy o roddwyr organau ar Gymru ond nid caniatâd tybiedig

Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad wedi galw heddiw am gamau cynnar i gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i’w trawsblannu yng Nghymru ond mae wedi gwrthod galwadau am ddeddfwriaeth i gyflwyno caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.  

Mae’r pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i’r mater o ganiatâd tybiedig, a daeth yn amlwg fod angen gwneud llawer mwy i wella cyfraddau rhoi organau yng Nghymru, a bod modd gwneud hynny. Ond cytunodd y pwyllgor y gallai symud tuag at ddeddfu ar ganiatâd tybiedig yng Nghymru dynnu sylw oddi ar gamau eraill sy’n debygol o gael mwy o effaith ac y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth iddynt.

Mae adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi:

“Drwy weithredu argymhellion Tasglu Rhoi Organau’r DU  yn gynnar, byddai’n bosibl cymryd y camau mwyaf brys a chynhyrchiol ar gyfer gwella cyfraddau rhoi organau. Nid ydym yn diystyru’r posibilrwydd o gyflwyno caniatâd tybiedig yng Nghymru rywbryd yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid ydym yn credu mai hon yw’r flaenoriaeth bwysicaf ar hyn o bryd a chredwn y gall dynnu sylw oddi ar gamau eraill mwy cynhyrchiol.”

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion:

  • Os caiff y syniad o ganiatâd tybiedig ei gyflwyno yn y DU, dylid cyflwyno dull ‘meddal’ o ran ymgynghori ag anwyliaid ac ystyried eu barn.

  • Dylid datblygu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn sicrhau y caiff argymhellion y Tasglu eu gweithredu’n gywir.

  • Dylid adolygu capasiti trawsblannu yng Nghymru er mwyn gweld a ellir ei ehangu ymhellach, gan gynnwys dichonolrwydd cyfleusterau a leolir mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal â Chaerdydd.

  • Dylai Llywodraeth y Cynulliad ystyried cynyddu nifer y cyfleusterau gofal dwys neu ofal critigol yng Nghymru er mwyn helpu i gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i’w trawsblannu.

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Nid tasg hawdd yw gofyn i bobl sy’n galaru roi eu caniatâd i gymryd organau eu hanwylyd, hyd yn oed er mwyn arbed bywyd rhywun arall. Felly, gallaf weld pam y byddai caniatâd tybiedig yn atyniadol. Yn anffodus, beth bynnag yw’r atyniad, nid yw’n ateb syml.  

“Y wlad sydd â’r record orau o ran rhoi organau yw Sbaen. Er bod y wlad yn gweithredu o dan drefniadau caniatâd tybiedig, rhaid i’r teulu roi caniatâd bob tro. Mae’r llwyddiant yn Sbaen yn deillio o newidiadau sefydliadol cadarn yn y gwasanaeth iechyd, hyfforddiant da, yn arbennig o ran sut i siarad ag anwyliaid sy’n galaru, ac athroniaeth sy’n sicrhau bod rhoi organau yn gyfrifoldeb ar bawb ac nid y cydgysylltwyr trawsblaniadau yn unig.”  

Mae’r adroddiad yn nodi hefyd y dylid cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus rheolaidd ar roi organau ac mae’n canmol ymgyrch ddiweddar Donate Wales – Dywed Wrth Rywun Agos, sy’n cynnwys pobl fel James Hook, Connie Fisher a Colin Jackson.  

Dywedodd Jonathan Morgan: “Ymddengys fod yr ymgyrch Dywed Wrth Rywun Agos yn llwyddiant mawr - mae dros 9,000 o roddwyr newydd wedi cofrestru ar y Gofrestr Rhodwyr Organau ers dechrau’r ymgyrch. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chadw’r olwyn i droi.”

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod gan UK Transplant, y sefydliad sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r syniad o roi organau a’r Gofrestr Rhoddwyr Organau, ffocws clir ar Gymru a materion Cymreig.

Dywedodd Jonathan Morgan: “Clywsom sawl beirniadaeth nad yw UK Transplant yn ymateb i anghenion Cymru. Un o’n prif bryderon oedd cael ein hysbysu nad yw’r ffurflen ganiatâd ar roi organau ar gyfer perthnasau ar gael yn Gymraeg er gwaethaf ceisiadau i’r perwyl hwnnw. Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad gael trefn ar hyn. Caiff UK Transplant dros £560,000 gan Lywodraeth y Cynulliad ond nid oedd y Gweinidog na’r swyddogion yn ymwybodol o hyn wrth roi tystiolaeth i ni.”

Nodiadau

1.Yn hytrach na dewis rhoi organau drwy gario cerdyn rhoddwr neu ymuno â’r gofrestr rhoddwyr organau, ystyr caniatâd tybiedig yw dewis peidio â rhoi organau drwy gofrestru nad ydych am i’ch organau gael eu defnyddio.

2.Sefydlwyd y Tasglu Rhoi Organau gan Lywodraeth y DU yn 2006 gyda’r cylch gorchwyl canlynol:

  • Nodi rhwystrau rhag rhoi organau a thrawsblaniadau ac argymell datrysiadau o fewn fframweithiau gweithredol a chyfreithiol sydd eisoes yn bodoli;

  • Nodi rhwystrau rhag unrhyw ran o’r broses drawsblannu ac argymell ffyrdd o’u gorchfygu.

3.Mae adroddiad y Tasglu yn cynnwys 14 o argymhellion a allai arwain at gynnydd o 50% yn nifer yr organau a roddir ledled y DU yn ei farn ef.