Pwyllgor y Cynulliad yn annog Gweinidogion i ail-ystyried eu safbwynt ynglyn â chyllid preifat.
Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i groesawu’r defnydd o bartneriaethau cyhoeddus-preifat mewn ymgais i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dywed Aelodau fod modelau mwy cost effeithiol ar gael bellach na’r Fenter Cyllid Preifat a gaiff ei beirniadu mor aml.
Mae’r Pwyllgor hefyd am i Lywodraeth y Cynulliad edrych gyda chydweithwyr yn San Steffan, ar y posibilrwydd o ymestyn y grym i fenthyca i Weinidogion Cymru.
“Mae’r dull Partneriaeth Cyhoeddus-Preifat wedi datblygu dros gyfnod o amser,’’ meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Angela Burns AC.
Dolen i fideo ymweliad Angela Burns AC>>
“Mae bellach nifer o fodelau sy’n galluogi’r sector cyhoeddus i gael mynediad at yr arian cynyddol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn modd cytbwys ac ar gost resymol, wrth barhau i alluogi’r sector preifat i wneud proffid derbyniol.”
Dewisodd aelodau’r Pwyllgor Dy’r Eos, Cymdeithas Dai Cadwyn, yng Nghaerdydd, i lansio’r adroddiad oherwydd honna Cadwyn mai Partneriaeth Cyhoeddus Preifat sydd yn wir wedi arbed arian i’r trethdalwr.
Cyn i gyfleuster Cadwyn gael ei adeiladu roedd Cyngor Dinas Caerdydd yn cartrefu nifer o deuluoedd digartref mewn llety Gwely a Brecwast, ar bris y farchnad.
Ond mae’r rhent a dalant bellach i Cadwyn yn llawer llai na’r hyn oeddent yn ei dalu i’r lletyau gwely a brecwast preifat. Y fantais ychwanegol i breswylwyr yw bod Ty’r Eos yn rhoi mynediad iddynt at gymorth, hyfforddiant a gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau.
Ariannwyd y prosiect, yn Ffordd Casnewydd, gan Grant Tai Cymdeithasol o £2.093miliwn ynghyd â benthyciad o £600,000 o’r banc. Mae tai fforddiadwy a adeiladwyd gan gymdeithasau tai fel arfer yn golygu cyfran fenthyca uwch, ond mae hwn yn gyfleuster arbennig oedd ag angen mwy o grant.
“Ers i ni gychwyn yn 2005, rydym wedi cartrefu dros 300 o deuluoedd oedd ag angen mawr am do uwch eu pen, yn ogystal â darparu’r cymorth i ymdrin â rhai o’r problemau a arweiniodd iddynt fod yn ddigartref yn y lle cyntaf,’’ meddai Prif Weithredwr Cadwyn, Chris O’Meara.
“Ac yn syml ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb gymorth cyllid preifat.”
Yr argymhelliad pwysig arall yn yr adroddiad hwn yw bod Llywodraeth y Cynulliad yn ymchwilio i’r posibilrwydd o fenthyca.
“Cred y Pwyllgor y dylai Llywodraeth y Cynulliad edrych ar y posibilrwydd fod pwerau benthyca sydd ar gael i awdurdodau lleol yn cael eu hymestyn i gyrff cyhoeddus eraill,’’ ychwanegodd Cadeirydd y Pwyllgor.
“Mae’r Pwyllgor yn argymell hefyd fod Llywodraeth y Cynulliad, gyda llywodraeth y DU yn edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y grym i fenthyca ar gyfer buddsoddi cyfalaf i Weinidogion Cymru.”