Pwyllgor y Cynulliad yn ceisio barn y cyhoedd ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r cynnydd a wnaethpwyd gan chwe Bwrdd Gwasanaethau Lleol peilot yng Nghymru a sut y bydd y Byrddau’n datblygu yn y dyfodol ac mae’n galw ar y rhai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.
Cefndir
Gwnaeth Adroddiad Adolygiad Beecham, Ar Draws Ffiniau: Gwasanaethau Lleol sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd
nifer o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff eraill yng Nghymru. Dau argymhelliad i Lywodraeth y Cynulliad oedd:
Profi set realistig ac uchelgeisiol o Gontractau Gweithredu mewn Partneriaeth (PACts) gyda’r canlyniadau yn cael eu trafod ar y cyd â sefydliadau darparu lleol.
Ystyried profi model o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus lleol wedi i ganlyniad y PACts gael ei werthuso.
Yn Cyflawni ar Draws Ffiniau
, ei ymateb i Adroddiad Beecham, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad sefydlu Byrddau Gwasanaethau Lleol (LSBs) yn 2007-08 Mae’n rhagweld y bydd y rhain yn tyfu o’r partneriaethau strategaeth cymunedol sy’n bodoli’n awr. Eu swyddogaeth yw dilyn llwybr gweithredu ar y cyd lle bydd yn golygu gwell canlyniadau i ddinasyddion, yn seiliedig ar gyd-gynllunio uchelgeisiol a darparu gwasanaethau yn integredig.
Yn dilyn hyn cyhoeddwyd chwe phrosiect datblygu yng Nghaerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Gwynedd, Castell Nedd Port Talbot a Wrecsam.
Cylch Gorchwyl
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl canlynol ar gyfer yr ymchwiliad:
Archwilio cynnydd cynnar y chwe Bwrdd Gwasanaethau Lleol peilot yng Nghymru a gwneud argymhellion gyda golwg ar ddatblygu Byrddau Gwasanaethau Lleol yn y dyfodol, gan gyfeirio at:
Y broses o ddwyn ynghyd “dimau arwain lleol” yn yr ardaloedd peilot ac effeithiolrwydd cyd-weithio rhwng y cyrff craidd a deiliaid diddordeb.
Monitro a gwerthuso’r cynnydd a wnaethpwyd wrth sefydlu Byrddau Gwasanaethau Lleol hyd yma a’r broses “ddysgu gweithredol” wrth iddynt ddatblygu.
Cytundeb Cytundebau Darparu’n Lleol (LDAs) yn yr ardaloedd peilot, yn cynnwys edrych i ba raddau y mae pobl leol wedi ymwneud yn y broses.
Y berthynas rhwng Byrddau Gwasanaethau Lleol a strwythurau partneriaeth presennol, yn benodol y partneriaethau strategaeth cymunedol a’r strwythurau isranbarthol megis Byrddau Rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Y craffu ar ac atebolrwydd Byrddau Gwasanaethau Lleol.
Sut mae partneriaid sy’n cynnwys sawl awdurdod unedol yn ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Lleol niferus.
Rôl Awdurdodau Lleol mewn perthynas â’r Byrddau.
Rôl swyddogion Llywodraeth y Cynulliad gyda golwg ar y Byrddau.
Rôl y “Cynllun Gofodol” a Gweinidogion â Byrddau Gwasanaethau Lleol yn eu hardaloedd.
I ba raddau y mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol a Chytundebau Ardaloedd Lleol yn Lloegr wedi bod yn sail i ddatblygu’r model yng Nghymru?
Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, erbyn dydd Gwener, 26 Medi 2008 fan bellaf. Os yn bosibl, cyflwynwch fersiwn electronig ar ffurf MS Word neu fformat Rich Text naill ai ar yr e-bost at health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.
Efallai y bydd y Pwyllgor yn gofyn i’r rhai sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gyflwyno fel tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a fyddech yn fodlon cyflwyno’ch tystiolaeth yn bersonol os gwelwch yn dda.
Dylai tystion fod yn ymwybodol, unwaith bo tystiolaeth ysgrifenedig wedi’i chyflwyno i Bwyllgor y caiff ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw gosod papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac fe allant wedyn gael eu hargraffu gyda’r adroddiad.