Mae pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu gwybodaeth cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20.
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn trafod disgwyliadau pobl, gan gynnwys parodrwydd ariannol ac effaith cyllideb 2018-19, ar ran y Pwyllgor Cyllid a Phwyllgorau eraill y Cynulliad.
Gwerth y gyllideb yw oddeutu £16 biliwn ac fe'i defnyddir i ariannu, ymysg pethau eraill, ysbytai, ysgolion, awdurdodau lleol, trafnidiaeth gwasanaethau cymdeithasol a'r economi yng Nghymru.
Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb, gan ystyried refeniw a godir drwy dreth incwm o dan Ddeddf Cymru 2017. Bydd Cyfradd Treth Incwm Cymru yn cyfrif am oddeutu £2 biliwn o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddir y cynigion drafft ym mis Hydref 2018 a chreffir arnynt gan y Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgorau perthnasol ar gyfer pob portffolio gweinidogol.
Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Mae £16 biliwn y flwyddyn yn swnio'n fawr, ond mae Cymru wedi cael ei thanariannu'n gyson yn y gorffennol.
"Eleni fydd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru godi arian drwy Gyfradd Treth Incwm Cymru, felly mae'n bwysig cael gwybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal refeniw a godwyd drwy drethi a sut y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio.
"Cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi'n swyddogol, rydym yn gofyn i bobl beth y dylai arian gael ei wario arno a sut y dylai gael ei wario. Caiff y syniadau a'r safbwyntiau hynny eu hystyried wrth i ni ddechrau ein gwaith craffu yn yr hydref."
Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad fynd i dudalennau gwe'r Pwyllgor Cyllid ar wefan y Cynulliad.
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 12 Medi 2018.