Pwyllgor y Cynulliad yn dweud fod angen gwella’r ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/12/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn dweud fod angen gwella’r ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed yng Nghymru

9 Rhagfyr 2010

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod y ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed mor effeithiol â phosibl yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Er bod y ddarpariaeth ar y cyfan yn ddigonol yng Nghymru, canfu’r adroddiad gan grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad, bod angen dileu ambell i lond llaw o wasanaethau gwael eu darpariaeth er mwyn i bobl ifanc sy’n agored i niwed elwa ohono fel llwybr i gyflogaeth.

Mae’r ymchwiliad yn deillio o ddeiseb a gyflwynwyd i’r Pwyllgor gan ‘Gweithredu dros Blant’, a oedd yn honni nad yw dysgu seiliedig ar waith yn diwallu anghenion pobl ifanc sy’n agored i niwed, yn arbennig y rhai sy’n byw yn annibynnol.

Mae’r adroddiad sy’n deillio o hynny yn amlinellu’r pryder am y diffyg cefnogaeth bersonol effeithiol a gaiff dysgwyr seiliedig ar waith, ac mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu cynghorydd personol i’r rhai sy’n byw yn annibynnol.

Mae hefyd yn tynnu sylw at anghysonderau mewn incwm rhwng y rhai sy’n dilyn rhaglen dysgu seiliedig ar waith a’r rhai sy’n dilyn cwrs addysg bellach, gan nad yw’n cymell dysgwyr ifanc sy’n byw’n annibynnol, ac nad ydynt yn gallu fforddio ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried trefniadau cymorth ariannol ar gyfer dysgwyr seiliedig ar waith, gan gynnwys darparu taliadau teithio ymlaen llaw, fel nad yw costau yn rhwystr rhag cymryd rhan.

Mae hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn canfod asiantaeth arweiniol i hwyluso’r cydweithio rhwng asiantaethau ac annog partneriaethau gwaith effeithiol er mwyn cefnogi pobl ifanc sy’n agored i niwed.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Gall dysgu seiliedig ar waith fod yn ffordd effeithiol i bobl ifanc feithrin sgiliau a symud tuag at gyflogaeth. Er hynny, dangosodd yr ymchwiliad hwn bod materion fel dim digon o gefnogaeth ariannol a bugeiliol yn golygu bod rhai pobl ifanc yn rhoi’r gorau i’w cyrsiau, neu ond yn cyflawni cymwysterau sylfaenol.

“Fel Pwyllgor, rydym yn cydnabod bod rhai cynlluniau dysgu seiliedig ar waith ar gael gan ddarparwyr sydd ag enw da ledled Cymru, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod pobl ifanc sy’n agored i niwed yn cael cyfle i symud i gyflogaeth gynaliadwy.

“Mae’r ymchwiliad hwn, hefyd, yn dangos sut y gellir cyflwyno materion i faes cyhoeddus drwy system ddeisebau’r Cynulliad. Mae’r ymchwiliad hwn yn deillio o ddeiseb a gyflwynwyd gan ‘Gweithredu dros Blant’ a buasem yn annog sefydliadau ac unigolion eraill i ddefnyddio’r system hon, sy’n gallu sicrhau canlyniadau cynyddol.”

Dywedodd Brigitte Gater, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Plant - Gweithredu dros Blant: "Rydym yn falch fod ein deiseb wreiddiol i’r Cynulliad Cenedlaethol wedi arwain at gynnal yr ymchwiliad pwysig hwn. Rhaid i ni wyrdroi’r cylch lle mae pobl ifanc sy’n agored i niwed yn methu ar y cynlluniau dysgu seiliedig ar waith pan nad yw’r cynlluniau hynny’n cynnig digon o gefnogaeth na hyblygrwydd i ddiwallu eu hanghenion unigol. Mae hyn yn arwain at derfynu contractau, a llawer gormod o bobl ifanc yn cael eu gorfodi i symud i gyrsiau eraill cyn iddynt gyflawni’r cymhwyster sylfaenol, hyd yn oed.

"Rydym yn annog Llywodraeth y Cynulliad i gynnig mwy o ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith sy’n diwallu anghenion pobl ifanc yn well drwy asesiad a hyfforddiant mwy effeithiol, mewn modd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n helpu pobl ifanc i oresgyn y trafferthion, yr anawsterau a’r heriau y mae’n eu hwynebu. Yn bennaf, hoffem weld mwy o ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ddigartref sy’n chwilio am hyfforddiant."