Pwyllgor y Cynulliad yn dweud y dylai Gweinidogion Cymru gael atal yr ‘Hawl i Brynu’
Dylai Gweinidogion Cymru allu deddfu er mwyn atal yr ‘Hawl i Brynu’ stoc y cyngor mewn ardaloedd sydd â phrinder tai cymdeithasol.
Dyna yw barn Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd wedi cefnogi Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dilyn Gorchymyn a osodwyd yn 2007, ond a gafodd ei ollwng o ganlyniad i bryderon ynglyn â pha mor gyfreithlon oedd rhai agweddau ohono.
Dywedodd Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae tai fforddiadwy o safon dda yn rhan hanfodol o fywyd bodlon.”
“Dyna pam ein bod ni, fel pwyllgor, yn cydnabod pwysigrwydd y Gorchymyn arfaethedig hwn er mwyn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad mewn perthynas â thai cymdeithasol a diwallu anghenion tai pobl sy’n agored i niwed.
“Rydym wedi nodi’r dystiolaeth gan yr ymgyngoreion yn croesawu cwmpas eang y Gorchymyn arfaethedig o’i gymharu â’r Gorchymyn arfaethedig gwreiddiol, ac rydym ninnau hefyd yn croesawu hynny.”
Yn ogystal â rhoi’r gallu i Weinidogion atal yr Hawl i Brynu, bydd y Gorchymyn arfaethedig hefyd yn:
- rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad dros ddarparu, gan awdurdodau lleol, safleoedd carafannau i Sipsiwn a Theithwyr;
- galluogi’r Cynulliad i ddatblygu deddfwriaeth mewn perthynas ag atal digartrefedd a materion am ddigartrefedd bwriadol;
- galluogi’r Cynulliad i ddeddfu ar gostau Treth Gyngor ar anheddau nad prif breswylfa unigolyn mohonynt.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010