Pwyllgor yn annog rhagor o gydweithio er mwyn sicrhau bod polisïau Ewrop yn gweithio i Gymru

Cyhoeddwyd 12/03/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn annog rhagor o gydweithio er mwyn sicrhau bod polisïau Ewrop yn gweithio i Gymru

Mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i rannu mwy o wybodaeth gyda’r Pwyllgor am bolisïau drafft yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed yr Aelodau nad ydynt yn cael digon o fanylion i graffu’n briodol ar effaith polisïau’r UE ar Gymru.

Mae’r canfyddiadau yn rhan o adroddiad ar ymchwiliad y Pwyllgor i sybsidiaredd. Mae hefyd yn galw am fwy o gydweithio ar y mater rhwng pob corff seneddol yn y DU.

“Mae’r adroddiad yn dangos ffordd well y gall y Pwyllgor ddewis a dethol testunau i graffu arnynt o’r amrywiaeth eang o faterion Ewropeaidd a gaiff eu cynnig bob blwyddyn,’’ meddai Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Rydym hefyd am wella’r ffordd rydym yn cyfathrebu â Llywodraeth Cynulliad Cymru, a deddfwrfeydd eraill, fel rhan o’n ffordd strategol o graffu ar bynciau.

“Credwn y bydd ein hargymhellion yn gwella ein gwaith craffu a bydd hefyd yn meithrin cysylltiadau agosach â sefydliadau datganoledig eraill yn y DU, yn ogystal â dau Dy’r Senedd, ar faterion Ewropeaidd.”

Prif argymhellion yr adroddiad yw:

  • Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i ddefnyddio rhwydwaith monitro sybsidiaredd Pwyllgor y Rhanbarthau er mwyn rhoi cymorth cadarnhaol i waith monitro pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

  • Dylai’r Pwyllgor annog cydweithio â Chynulliadau Rhanbarthol Ewropeaidd eraill, a rhwydweithiau eraill yr UE.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol o ran ei flaenoriaethau Ewropeaidd tymor byr a hirdymor yng nghyd-destun gwaith blynyddol a rhaglenni deddfwriaethol y Comisiwn.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod holl Femoranda Esboniadol Llywodraeth y DU ar gynigion deddfwriaethol a pholisi Ewropeaidd sy’n berthnasol i Gymru ar gael mewn da bryd.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynhyrchu ei fersiwn ei hun o bob Memorandwm Esboniadol, yn nodi ei barn ar bob cynnig newydd sydd ag effaith ddatganoledig a’r hyn mae’n ei olygu i Gymru.